麻豆社

Lladd yr Ymerawdwr

gan Glyn Tudwal Jones
Bore Gwener Hydref 29 2010

Pwy laddodd yr Ymerawdwr?

Fe welsoch chi'r hanes, si诺r o fod. Mae rhywun wedi saethu'r carw coch urddasol, hardd, hwnnw oedd yn crwydro Exmoor yn Nyfnaint.

Yr Ymerawdwr, yr anifail gwyllt mwyaf yn y deyrnas, oedd yn sefyll naw troedfedd uwchben y ddaear.

Cymerodd rhywun wn a'i saethu, a hynny, yn 么l y s么n, cyn iddo gael cyfle i gyplu a phasio'i enynnau ymlaen i genhedlaeth arall. Rhywun wedi penderfynu bod yr arian y bydda fo'n ei gael am ei gyrn, rhai miloedd o bunnau mae'n debyg, o fwy o werth na bywyd yr anifail druan ei hun.

Isel eu gwerth

Wrth i oblygiadau cynlluniau gwariant y Llywodraeth ddod yn gliriach inni o dipyn i beth, mae'n amlwg bod pethau fel addysg prifysgol o fewn cyrraedd pawb, gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y rhai mwyaf anghenus, iaith a diwylliant cenedl fach a gofal a chysur yr henoed wedi eu cyfrif yn isel eu gwerth, ac felly'n dargedau hawdd.

Ond ymhell cyn i'r Canghellor anelu ei wn at y rheini, aeth rhywbeth o'i le ar ein gwerthoedd ni a hwythau'n cael eu troi wyneb i waered.

Ers blynyddoedd bu lleisiau masnach a busnes yn ceisio'n perswadio bod popeth sy'n werth ei gael yn bethau y gellir eu prynu ag arian.

Bydd y lleisiau hynny'n uchel iawn eu cloch yn ystod yr wythnosau nesa, sy'n arwain at y Dolig.

'Wayne's World'

Does fawr ryfedd mewn gwirionedd ein bod ni wedi creu sefyllfa lle y gall un dyn gael ei dalu chwarter miliwn o bunnau yr wythnos am gicio p锚l.

Daeth "Wayne's World" yn fyd i bob un sy'n gwybod pris popeth a gwerth dim.

Pwy saethodd yr Ymerawdwr yn y gwerthoedd a'r ffordd o fyw yr ydan ni'n ei phasio ymlaen i'r genhedlaeth nesa?

Ond trwy'r cwbwl, mae Iesu'n dal i'n rhybuddio: "Er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.