麻豆社

Proffwydo

gan Meirion Morris
Bore Mercher, Hydref 27 2010

Diwedd Paul

Dw'i wedi bod yn meddwl y buasai yn beth da iawn medru rhagweld y dyfodol. Meddyliwch am y manteision allai ddeillio o rhyw ddawn broffwydol fyddai'n golygu fod penderfyniadau heddiw yn cael eu cymryd ar sail gwybodaeth am yfory - gwybodaeth am ganlyniadau pob penderfyniad.

Roeddwn yn meddwl am y peth am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt, y ffaith fod pawb yn y byd gwleidyddol wedi bod yn ceisio rhagweld beth fydd canlyniadau y penderfyniadau cyllidol a wnaed yr wythnos diwethaf.

Cwpan y Byd

Ond, y rheswm pennaf oedd clywed am farwolaeth Paul - nid Paul yr apostol, mae o wedi marw ers sbel - ond Paul yr octopws a ddaeth i enwogrwydd mawr yn ystod Cwpan B锚l-droed y Byd oherwydd yr honiad y gallai ragweld canlyniadau gemau o'i bysgodlyn bach yn yr Almaen.

Yn 么l y s么n, roedd wedi rhagweld yn gywir pwy fyddai'n fuddugol saith o weithiau.

Ddoe, o glywed am ei farwolaeth, roedd teyrngedau iddo ac mae s么n y bydd yna gofeb yng nghyffiniau'r acwariwm o barch iddo.

Yng ngeiriau ei geidwad - yr ydym yn cael ein cysuro gan y wybodaeth ei fod wedi byw bywyd hapus!!

Fy anhawster

Maddeuwch imi yr anhawster dwi'n gael gyda'r cwbwl - y s么n am deyrnged, y bobl oedd yn barod i feddwl fod ganddo ddawn ac yna'r ffaith fod amryw o bobl yn Sbaen am gynnig rhyddfraint eu trefi iddo gan gredu ei fod a llaw, neu fraich ym muddugoliaeth y wlad!

Dyna ni - pawb a'i farn. Cofiwch, tebyg gen i fod llond gwlad o broffwydi tybiedig yn byw a bod yn eich mysg heddiw. Efallai eich bod yn un!!

Hawdd adnabod y teip. Byddant yn deud pethau fel: "Os digwydd hyn, mi fydd hyn yn si诺r o ddigwydd" neu "Ddaw dim da o hyn".

Yn gyffredinol maent i gyd yn broffwydi gwae.

Fel un sy'n mynd i amryw o bwyllgorau eglwysig ac ati, mae'r proffwydo a'r darogan yn weddol gyson. A dweud y gwir, dwi newydd gael job newydd gan yr eglwys ac mae yna bobol yn darogan yn barod y bydd hyn yn arwain at ddifodiant yr enwad.

Wel, fydd dim angen imi wneud fawr o ddim i wireddu y broffwydoliaeth honno gan y byddai gadael pethau fel y maent yn sicrhau y byddwn yn cael beth yr ydym wedi arfer ei gael!!

Yr Un

Beth bynnag am hynny, gwell gen i gredu Un sydd yn gwybod am y diwedd o'r dechrau, yr Un sy'n trefnu heddiw i sylweddoli ei fwriadau ar gyfer yfory.

Yn 么l un o broffwydi Duw, rwy'n gwybod y bwriadau sydd gennyf ar eich cyfer, bwriadau heddwch nid niwed, i roi ichwi y diwedd yr ydych yn ei ddisgwyl.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.