Dameg i'r byd
Mae yna ddameg yn cael ei hactio y dyddiau hyn o flaen llygaid camerâu'r byd.
I lawr bron hanner milltir, yn y gwaelodion bydol, 'rydych chi a fi - wedi ein caethiwo gan y cwymp a dyma ni wedi byw am hydoedd yn nhywyllwch a llwch ein materoliaeth a'n bydolrwydd a'n hunanoldeb.
Ond fe dorrodd Duw drwodd atom ni a dangos drwy waith a bywyd Iesu fod y nef uwchben yn gwybod am ein cyflwr enbydus ni.
Rhoddodd Iesu lein ffôn inni gael siarad a'n gilydd mewn cariad, a siarad â Duw.
Eglwys fach o 33
Bellach daeth hi'n hen bryd ein codi ni o'ma. Dyma ni, fel eglwys fach o 33 o aelodau wedi cael gwybod ers cyfnod maith fod angen ffydd a gobaith a chariad arnom ni tra'n disgwyl cael ein gwared.
Ffydd yn ein gilydd y byddwn ni'n gwneud y gore dros ein gilydd tra'n bod ni yma, a ffydd fod y nerthoedd oddi uchod yn gweithio'u ffordd yn ddiair tuag atom, fel y bydd Duw yn drilio drwy greigiau oesol hen gredoau caled er mwyn ein cyrraedd ni.
'Roedd angen gobaith i'n cynnal ni. Gobaith, esperanza, yn ein calonnau ni yn wyneb anobaith ein sefyllfa ni fel eglwys.
Ysbrydoli gobaith
A'r gobaith hwnnw'n cael ei ysbrydoli gan wersyll gobaith uwchlaw i ni lle mae Duw yn llawn gobaith am y gwaetha ohonom ni a lle roedd merch fach newyddanedig yn cael ei henwi'n Esperanza i godi ysbryd ei thad a'i gyd-aelodau yn y gwaelodion.
'Roedd angen cariad arnom ni i'n clymu ni wrth ein gilydd mewn cydweithio ar lawr daear a'r cariad hwnnw yn llifo o'r byd tragwyddol uwchlaw inni, byd y sylweddau uwch sy'n ysu am gael ein cofleidio ni.
Y dydd yn dod
Ddoe gallaf ddychmygu'r 33 ohonom ni, wrth weld trwyn y dril yn dod drwy'r graig, yn canu
'Rwy'n gweld yn awr drwy ffydd,
y nefol ddydd ar ddod.
Bore fory, neu drennydd, neu ryw ddydd bendigedig o glou, fe gawn ein codi gan Dduw o fyd cyfyng ein heiddigedd a'n trachwant a'n hunanoldeb i fyw bywyd ar lefel uwch mewn brawdoliaeth a chariad a heddwch.
Deued y fasged fach yna'n glou i'n codi ni i gyd o 'ma ddweda i.