Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth
Os gwrandawn ni'n astud, mae pobl yn siarad mewn barddoniaeth.
Dwi'n cofio gweinyddes caffi Gorsaf Reilffordd Caer yn dweud wrth ei ffrind am y trip Ysgol Sul i'r Rhyl erstalwm. "Ti'n cofio'r dyddiau y byddem yn cerdded ar ddŵr?"
Dwi'n cofio achlysur arall a gŵr ifanc o Dreuddyn yn disgrifio Plygain Lloc yn Sir y Fflint - disgrifio awyrgylch mynd i mewn i'r eglwys yn blygeiniol fore Nadolig yn y tywyllwch a dod allan i'r goleuni. Rhyfeddu mor Gymreig oedd y codi yn eu tro i ganu. A phetawn wedi recordio ei argraffiadau cynnes, fe fyddai'n farddoniaeth barod.
Grym arbennig
Yn fwy na harddwch ymadrodd, hyd yn oed, mae i farddoniaeth rym arbennig, ac mae dau achlysur yn dod i'r cof.
Angladd bachgen 17 oed yn dilyn damwain ddifrifol. Roedd Eglwys San Silin, Wrecsam, dan ei sang o bobl ifanc dinodyn mewn hetiau pig.
Doedd yr emynau ddim yn cyffwrdd eu profiad ifanc. Yna hogyn a edrychai'r caletaf ohonyn nhw'i gyd yn codi i ddarllen teyrnged i'w ffrind. Y gerdd honno a ysgrifennodd ei hun oedd un o'r arfau cryfaf i mi erioed eu clywed. Diffuantrwydd ei eiriau oedd uchafbwynt y cofio.
Sgrifennu cerdd
Yn ddiweddar, diolch i Facebook, mi ddois yn ôl i gysylltiad efo cyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd roeddwn i'n arfer ei ddysgu.
Pan oedd o yn yr ysgol roedd o mewn grŵp oedd yn cael cymorth ychwanegol ond wna i byth anghofio un gerdd a ysgrifennodd. Cri yn erbyn anghyfiawnder i anifeiliaid oedd y gerdd, a dwi'n cofio ei ganmol yn fawr am y teimlad a'r datblygiad yn y gerdd.
Mae o'n gweithio bellach efo cŵn strae tref Wrecsam, yn gallu eu trin yn dyner, ac yn cael ei alw i ddelio efo argyfyngau. Ond roedd o wedi cysylltu efo mi i ddiolch am ysgrifennu'r gerdd honno efo fo ym mlwyddyn naw.
Dywedodd fod ysgrifennu'r gerdd yna wedi newid ei fywyd.
Dathlwn harddwch a grym barddoniaeth o bob math heddiw, ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.