麻豆社

Ail gyfle

gan Mererid Mair Williams
Bore Mawrth Hydref 5

Trosedd a chosb

Prynhawn Sul cefais gyfle i weld Mair Tomos Ifans yn cyflwyno monolog gan Angharad Tomos, Dan Glo.

Monolog ydyw o brofiad dynes o Sir F么n a dreuliodd ddeunaw mis yng Ngharchar Stile ger Manceinion.

Does dim llawer o bynciau mor effeithiol 芒 throsedd a chosb - a sut i ymwneud 芒 chyn-droseddwyr - i gynnau emosiynau pobl.

Ac mae hynny'n naturiol gan fod trosedd yn creu poen ac yn dinistrio bywydau dioddefwyr.

Mae'r dioddefwr yn y canol bob tro ond o gamu'n 么l mae nifer o ffactorau eraill yn dod i'r darlun. Effeithir ar deuluoedd troseddwr ac mae cymdeithas hefyd yn cael ei herio yn y ffordd mae cymunedau yn ymateb i'r sefyllfa

Dod yn 么l

A sut lefydd ydy'n cymunedau ni i ddod yn 么l iddyn nhw? I'r ferch o Sir F么n, troi pen a chroesi'r stryd i'w hosgoi oedd rhai tra bo gw锚n neu nod gan eraill yn golygu cymaint.

Caf hi'n anodd pan drafodir cyn droseddwyr yn y fath fodd eu bod yn parhau i gael eu cosbi.

Beth ddigwyddodd i dderbyn cosb, ei chyflawni a symud ymlaen?

Ac os na chaiff person gyfle i symud ymlaen yna mae camu'n 么l i'r hen ffordd yn gallu bod yn rhy rhwydd.

Doedd y ferch yn y fonolog ddim yn gwadu mai ei bai hi oedd ei throsedd ac roedd yn cydnabod ei chamgymeriad a dwi'n sicr nad oes yr un gwrand盲wr sydd heb wneud camgymeriad - rhyw greaduriaid felly yda ni yn gwneud rhywbeth o'i le, methu, ac yn aml yn gwneud hynny dro ar 么l tro.

Pawb yn methu

Dwi'n sicr nad oes yna unrhyw un yn gwrando chwaith sydd heb ofyn am faddeuant am ryw gam neu'i gilydd. Mae'n naturiol - pobl yda ni ac mae pobl yn gwneud camgymeriadau.

Os gallwn ni ddeall hynny pam fod cyn droseddwyr yn gallu ein troi ni i fod yn bobl hunangyfiawn ar y naw?

Fel Cristion, mae maddeuant yn rhan hanfodol o'm ffydd - er na allwn ni ddeall maddeuant o ddifri nes bod mewn sefyllfa i dderbyn neu i roi maddeuant.

I mi, ffydd yr ail gyfle ydy Cristnogaeth a dwi'n credu y byddai'n cymunedau yn llawer gwell o fod yn gymunedau yr ail gyfle hefyd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.