Â鶹Éç

Chwarae plant

gan John Gwilym Jones
Bore Llun Hydref 4 2010

04 Hydref 2010

Chware'n troi'n chwerw

Bydd yna rai cyfnodau'n dod pan gawn ein boddi gan chwaraeon. A dyma ni y dyddiau hyn yn ei chanol hi.

Mae yna dorfeydd yng Nghasnewydd na welodd Daniel Rowland Llangeitho erioed eu tebyg. A phan oedd y glaw yn golchi'r golffwyr i mewn am loches, roeddech chi'n gwibio draw i Delhi i weld yr agoriad drudfawr, a gyda hyn, y rhedeg a'r neidio.

Hollol ddealladwy. Mae rhedeg a phrancio yn ymarfer bendigedig i gorff ar ei brifiant ac mae cystadlu yn rhoi awch ar y meddwl ifanc. Mae'n hyfforddiant ar gyfer bywyd. Ac un o bleserau'r wythnos i fi bellach yw hebrwng yr wyrion i bwll nofio a chaeau rygbi.

Yn y cartre

Ond arhoswch chi am eiliad. Pan ddon nhw gartre i'r tÅ· fe fydda i yn eu gwylio nhw wedi eu hoelio wrth sgrin teledu a sgrin cyfrifiadur yn chwarae gemau trais a lladd.

Gofynnais iddyn nhw unwaith a oedd yna gemau i'w cael lle roedd pobol yn gyfeillion i'w gilydd ac yn garedig at bawb ac fe edrychon nhw arna i gyda thosturi, mod i'n ddigon twp i ddychmygu'r fath beth.

Ac fe wylian nhw am oriau ryw fodau arallfydol yn bygwth a saethu.

Beth bynnag am eu gemau nhw tu fas i'r tÅ·, dyma eu gemau nhw tu fewn. Os paratoad ar gyfer bywyd yw chwaraeon, disgwyliwch armagedon yn y dyfodol agos, oherwydd bydd gennym lywodraethwyr fydd wedi ymborthi ar drais.

Yma'n barod

Yn wir mae cynnyrch y ffilmiau rhyfel gyda ni'n barod. Mae gyda ni nawr wleidyddion yn eu hoed a'u hamser yn gwario miliynau ar arfau lladd ac yn mynnu na ddylid cwtogi dim ar erchyllterau ffantasïol fel Trident.

Mae'r Sais yn hoffi honni i frwydr Waterloo gael ei hennill ar gaeau ysgol Eton. Wel, fe fydd trais a lladd y dyfodol wedi eu geni yn stafelloedd teledu ein plant a'n hwyrion ni.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.