Â鶹Éç

Diolch am ragfarn

gan Owain llyr Evans
Bore Mercher, Medi 29 2010

Cyhuddwyd fi echdoe o fod yn rhagfarnllyd.
Do wir.

Mae'r rheini sy'n nabod fi yn synnu at y fath gyhuddiad, tra bod y bobl sy'n nabod fi'n dda yn synnu dim!

Cystal cyfaddef, o'm corun i'm sawdl dwi'n gymhlethdod o ragfarnau. Fel mae'r rhan fwyaf ohonom.

Am wn i, llai na pherson yw'r hwnnw sydd yn ymateb i bopeth bob amser yn gwbl ddiduedd. Cymeriad digymeriad ydyw, lledwan - llwyd fel lludw.

Un ffordd o adnabod person go iawn yw dod i adnabod ei ragfarnau.

Yn erbyn rhyfel

Gwn am un hen ŵr - yr addfwynaf o bobl, a'i holl osgo yn ymgorfforiad o foneddigeiddrwydd a moes. Heddychwr, ac wrth drafod y pwnc hwnnw mae gewynnau ei wyneb a'i ddwylo'n tynhau, daw ei ragfarn yn erbyn rhyfel yn gwbl amlwg.

Mae gen i ragfarn bendant yn erbyn rhai pethau a rhagfarn sicr o blaid pethau eraill.

Mae gen innau - fel chithau, ie fel chithau - ragfarnau llenyddol, crefyddol, diwylliannol, addysgiadol, gwleidyddol.

Rhagfarnau am fwyd a diod, am ambell unigolyn sydd, dim ond o'i gweld, yn suro llaeth fy nydd, am garafans, am ddynion yn eu hoed a'u amser gor-fol-eddus yn gwisgo crysau pêl-droed - os bu na amser rywbryd i chi chwarae dros eich annwyl dîm pêl-droed, yr amser hwnnw a aeth heibio, byth eto i ddychwelyd!

A gwell imi beidio dechrau sôn am werth clatsio pêl fach wen o un man i'r llall.

Angen pob math o ragfarn

Oes mae gen i bob math o ragfarnau - dychmyged pawb drosto'i hun bellach, rhag i mi godi gormod o fwganod.

Rhaid meddwl am ein rhagfarnau weithiau, rhag bod gwenwyn yn cronni ynddynt.

Felly, dwi'n rhagfarnllyd. Wrth gwrs fy mod i'n rhagfarnllyd, a wyddoch chi beth, mi gredaf fod Duw yn rhagfarnllyd hefyd.

Mae ganddo ragfarn bendant yn erbyn tlodi, newyn, tywallt gwaed, anghyfiawnder a phobl yn chwarae crefydd fel mae plant yn chwarae tÅ·.

Gan mai Duw yw Duw, mae ei ragfarn ef ar raddfa anferthol, cosmig; awesome fel petai.

Os ydwyf o ddifri am wasanaethu'r Duw hwn, mae'n rhaid i mi fod â rhagfarn yn erbyn yr union bethau y mae ganddo yntau ragfarn yn eu herbyn.

A phwy a wÅ·r, pe byddem ni - yr eglwys - ychydig yn fwy rhagfarnllyd am pethau hynny sydd yn haeddu chwip ein rhagfarn, y buasai llai o ragfarn yn ein herbyn am fod fel lloi yn y llaid.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.