麻豆社

Pitsa Fenis

Y Gamlas Fawr Yn Fenis

gan Owain Llyr Evans
Bore Mercher, Medi 22 2010

Pitsa Fenis

Mae'r holl beth yn ddigon hawdd wir - ychydig o flawd a d诺r yn gymysg, caws, tomato a thamaid o oregano os i chi byw yn Treganna.

Hawdd ddigon, a digon rhad; hyd yn oed o daflu ychydig o beparoni a jalapenaos a phinafal mae'r hyn a delir am y cynhwysion yn fach iawn iawn o gymharu a phris y pitsa.

Mae'r mark-up yn anhygoel o uchel, ond does fawr o wahaniaeth gan neb.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dwli ar bitsa. Mae ambell bitsa, cofiwch, yn gwneud gwahaniaeth. Yn 么l ym mis Tachwedd 1966 trwy rhyfedd gyfuniad o wynt mawr a sych yn chwythu ar draws M么r Adria, storm o fellt a tharanau mwy na'r cyffredin a thynfa'r lleuad llawn; cododd yn llanw uchel yn Fenis. Pum troedfedd yn uwch na'r arfer.

Bu'r difrod yn enfawr a sefydlwyd cronfa i ddiogelu Fenis rhag y fath ddifrod eto: The Venice in Peril Fund.

Hwb sylweddol

Deng mlynedd yn ddiweddarach, daeth hwb go sylweddol i'r gronfa honno pan gr毛wyd pitsa arbennig gan berchennog un cadwyn enwog o fwytai Eidalaidd - Pitsa Veneziana.

Yn 么l ym 1977, 'roedd y Veneziana yn costio 90c gyda 5c yn mynd i'r Venice in Peril Fund.

Heddiw mae'r Veneziana'n ddrutach o dipyn ac mae ychydig o arian yn mynd o hyd i gadw Fenis uwchben y d诺r.

Nid oes neb yn byw ar y llawr cyntaf bellach yn Fenis. Buasai'r m么r yn arfer gafael yn Sgw芒r Sant Marc efallai bedair gwaith y flwyddyn slawer dydd. Bellach, oherwydd newid hinsawdd, mae gwyddonwyr yn amcangyfrif y gallai'r Sgw芒r hyfryd hwnnw fod o dan d诺r ddeg ar hugain o weithiau os nad fwy bob blwyddyn.

Mae'r gwerthwyr hufen i芒 yn Fenis hefyd yn gwerthu Wellingtons.

Angen dybryd

Llwyddodd John F. Kennedy i fynegi ysbryd ei gyfnod yn ym 1963 gyda'r geiriau: Ich bin ein Berliner. Mae angen dybryd i un o arweinwyr byd i gyhoeddi Sono un Veneziano.

Pobl Fenis ydym bob un, mae pawb yn Fenis erbyn hyn. Aeth byw y tu allan iddi yn amhosibl. Daeth amser am bitsa newydd - llawn amrywiaeth blasus. Buasai ei holl gynhwysion yn dymhorol, ac o ffynonellau lleol.

Yn syml

Mae'r hafaliad yn syml iawn wir, po fwyaf o dir a rhoddir i amaethyddiaeth lleol, po fwyaf o gynnyrch a dyfir yn ac o gwmpas ein dinasoedd y mwyaf diogel a fyddwn rhag y llifogydd.

Hynny neu, wedi i Fenis ddiflannu bydd angen creu Pitsa arall i achub Mumbai, Lagos, Tokyo, Buenos Aries, Bangladesh, Kiribati, Tuvalu heb anghofio sawl ardal yng Nghymru sydd yn gyson ddioddef yn sgil llifogydd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.