Â鶹Éç

Heddwch i'r Byd

Heddwch i'r byd

gan Anna Jane Evans
Bore Mawrth, Medi 21 2010

Mae hi'n Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol heddiw - breuddwyd un person yn 1999 sydd bellach wedi cael ei derbyn fel polisi gan bob un o wledydd y Cenhedloedd Unedig ac mi fydd yna ddigwyddiadau ar draws y byd i ddathlu heddwch eto eleni.

Ers tair blynedd bellach mae Affganistan, wedi dathlu diwrnod heddwch drwy sicrhau cytundeb cadoediad gan bob ochr ac mae mwy na phedair miliwn o blant wedi cael eu brechu rhag polio - hynny'n bosibl wrth i bobl roi eu hegni a'u hamser i achub bywydau yn hytrach na'u dinistrio.

  • Yn Swdan maent yn cael cyfle i glirio ffrwydron tir.
  • Ar Arfordir Ifori byddant yn rhannu bwyd i'r mannau mwyaf anghysbell.
  • Yn Azerbaijan bydd ysbyty mamolaeth a chlinic yn cael eu hagor.
  • Yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo bydd cyfle i ddosbarthu rhwydi mosgito.
  • Ac yma, yng Nghaernarfon, byddwn yn gwobrwyo enillwyr y gystadleuaeth Poster Heddwch - disbyblion o Ysgol Eifionydd ac Ysgol yr Eifl.
"Heddwch i Bawb," ydi cefndir un o'r posteri - plentyn digon penderfynol i'w sgwennu drosodd a throsodd nes gorchuddio'r ddalen i gyd.

Efallai mai penderfyniad ydi heddwch a deud y gwir - ond, yn amlach na pheidio, dydan ni ddim yn ddigon penderfynol i'w wireddu.

Ewch i weld y posteri yng Nghyntedd Cyngor Gwynedd yr wythnos hon - a rhowch wybod i Radio Cymru be da chi am wneud acw - mi fase'n braf cael newyddion llawn o ddigwyddiadau heddwch - a digon o wahoddiadau i gadw Hywel Gwynfryn yn brysur tan Dolig!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.