Coelcerthi anghymdogol
Cafodd Pastor Terry Jones ei bum munud o enwogrwydd yr wythnos diwethaf, am fygwth llosgi'r Koran ar nawfed pen-blwydd trychineb 'nine-eleven'.
Diolch byth, synnwyr cyffredin aeth â hi yn y pen draw yn achos y gweinidog o Fflorida, er y bu'n rhaid i awdurdod uchaf yr Unol Daleithiau, yr Arlywydd Obama ei hun, ymbil ar Pastor Jones i gallio.
Cofiwch, dal i fod yn hollol ddiedifar y mae Terry Jones gan ddisgrifio'r weithred o losgi llyfrau fel un o 'ddiogelu gair Duw'.
Rhan o hanes
Mae protestio trwy losgi llyfrau wedi bod yn rhan o hanes gwrthdystio crefyddol ar hyd y canrifoedd - dyna oedd y Bonfire of the Vanities gwreiddiol, a llosgwyd aml i destun amhrisiadwy gan bobl oedd yn gwrthwynebu'r hyn a ysgrifennwyd ynddo, yn Gristnogion, Iddewon, Moslemiaid ac aelodau crefyddau eraill.
Ond un o'r esiamplau enwocaf o losgi llyfrau oedd hwnnw gan y Natsïaid yn 1933 pan aethpwyd ati'n seremonïol i losgi llyfrau y barnwyd gan y ffasgwyr fod eu cynnwys yn wrth Almaenig.
Ar gofeb y digwyddiad, yn Berlin heddiw, gellir gweld llinell gan Henrich Heine, geiriau a ysbrydolodd gerdd gan yr Athro Gwyn Thomas sy'n dechrau â'r llinell Llyfrau yn y tân. Mae'r gerdd yn gorffen, Yfory, pobl yn y tân.
Yn ffrainc
Wrth feddwl am weithredoedd eithafol, ac am Natsïaeth alla i ddim â pheidio meddwl am yr hyn sy'n digwydd yn Ffrainc.
Yno, mae'r wladwriaeth gyfan yn bygwth gweithredu polisi yr un mor eithafol o hyll yn fy marn i, er nad oes dim llosgi llyfrau i fod i ddigwydd.
Mae'r Arlywydd Nicolas Sarkozy yn ceisio grym i alltudio holl genedl y Roma - y sipsiwn fel yr oedden nhw i T Llew Jones gynt - allan o dir Ffrainc oherwydd, mae e'n honni, fod y bobl hyn - o Romania a Bulgaria yn bennaf - yn achosi anhrefn ac yn gyfrifol am ganran uchel o droseddu mewn dinasoedd fel Paris.
Dechrau'r diwedd
Alltudio pobl fu dechrau'r diwedd yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd ac mae gweld y math hwnnw o weithredu mewn gwlad ddemocrataidd, flaengar, fel Ffrainc yr un mor wrthun â meddwl am Gristnogion yn yr Unol Daleithiau yn llosgi'r Koran.
Mmm. Peth hyll yw 'ni'n well na chi', sut bynnag y cwyd ei ben. Ble mae "câr dy gymydog fel ti dy hun" tybed?
Heddiw, llyfrau yn y tân. Yfory, pobl yn y tân.