麻豆社

Angladd Duw

Stephen Hawking

gan Owain Llyr Evans
Bore Mercher Medi 8 2010

Bore da. Wel, dwi'n dweud 'bore da' ond wn i ddim os yw'n fore da wir.

Wedi dychwelyd i'r capel y Sul aeth heibio, yn llawn egni ar 么l cyfnod o wyliau, dyma fi'n sylweddoli fy mod i heb dalu digon o sylw i'r newyddion tra i ffwrdd, a heb gadw i fyny gyda fy narllen.

Llyfr Stephen Hawking

Cyhoeddwyd llyfr gan Stephen Hawking yn datgan nad yw Duw yn bod. Wel, nid hynny'n union, mae Hawking yn ei ddweud, wir, ond dyna beth mae rhai pobl yn ddweud mae e'n ddweud!

Gan fod Hawking yn credu y gallai'r greadigaeth fod wedi ei chreu ei hun, fel petai, heb neb na dim i ddechrau'r broses greadigol, nid yw'r syniad o Dduw, yr egni creadigol gwreiddiol yn bwysig iddo.

Dehonglwyd hynny gan nifer fawr o bobl fel datganiad - os nad prawf yn wir - nad yw Duw yn bod.

Chi'n gweld y gofid sydd gen i mae'n si诺r: os nad yw Duw yn bod, does dim diben i'r weinidogaeth ac felly dim diben i weinidogion.

Heb fod yna Dduw, nid oes angen gweinidogion. Man y man bo chi'n s么n am jazz heb rhythm, neu gr诺p heb git芒r, neu am dafarn heb far.

Gwasanaeth angladdol

Ond, am y tro beth bynnag, mae gan weinidogion fwy na digon o waith. Rhaid cynnal gwasanaeth angladd i'r hen foi - mae angen good send-off ar y Bod Mawr!

Bydd yr angladd yn para tridiau o raid. Gwasanaeth yn y mosg ddydd Gwener, yn y synagog ddydd Sadwrn, a'r gwasanaeth Gristnogol - o dan nawdd Cytun, wrth gwrs - ddydd Sul.

Mae'r enwadau mewn trafodaethau pa un o'r pwysigion fydd yn cael talu'r deyrnged.

Mae croeso i bawb i ddod wrth gwrs, os oeddech yn credu, hanner credu, neu'n bwriadu credu rywbryd.

Dewch, gan y bydd angen pawb ohonom i gario'r elor.

Rhaid ystyried

Ond, mae 'na ofyn i bobl ystyried cyn claddu'r Atgyfodiad Mawr a allant gael gwell cynhaliaeth ysbrydol na'r ffydd yn Nuw?

A oes gwell ffordd i feithrin rhinweddau y bywyd cyfrifol? Oes na gymorth i fyw gwell i'w gael, o ddifri?

Meddyliwch am y peth fel hyn efallai: a'i call yw taflu i ffwrdd y posibilrwydd o gael clywed y Stereophonics yn Stadiwm y Mileniwm er mwyn y sicrwydd o gael clywed y Monophonics yng nghlwb rygbi Cwmscwt.

Gyda phob parch i Gwmscwt wrth gwrs.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.