麻豆社

Dagrau'r coed

Anna Jane Evans

gan Anna Jane Evans
Bore Mawrth Medi 7 2010

Wythnos dwetha, yn 么l rhai sylwebyddion, fe gymerwyd y camau bychain cyntaf at heddwch rhwng Netanyahu ac Abbas - ac fe gyhoeddodd cennad heddwch y Dwyrain Canol sy'n cael ei alw'n rhyfelgi gan sawl sylwebydd arall ei hunangofiant.

Dangos llun

Wn i ddim be ddaw o'r trafodaethau heddwch na'r tipyn hunangofiant ond mi faswn i'n licio dangos llun i'r tri ohonynt cyn iddynt fynd ymhellach.

Fis yn 么l roedd arddangosfa lluniau yng Nghadeirlan Bangor - safon digon amrywiol ond arddangosfa hynod gofiadwy - lluniau o'r byd trwy lygaid plant Llain Gasa.

Ymysg y lluniau mi roedd yna un nath fy llorio i'n llwyr - darn o bapur wal digon bler oedd gan y plentyn - a rhyw bensil a chwpl o crayons.

Roedd wedi rhannu'r papur yn ddau hanner - ar y chwith ac yn teithio tua'r dde roedd llun tanc - ac uwchben y tanc, llun taflegryn.

Doedd dim bobl yn y llun o gwbl. Ar ochr chwith y papur roedd coeden a haul. Yr hyn wnaeth fy llorio i oedd y ffaith fod canghennau'r goeden fel petaent yn dal ei phen deiliog ac roedd dagrau'n rowlio'i lawr ei gruddiau.

Yn yr un modd, roedd dagrau'n tywallt o lygaid yr haul.

Fel y dwedaisi, mi loriodd y llun fi ac am rai munudau doeddwn i'm yn gallu symud na thynnu fy llygaid oddi wrth y darlun - ac meddai rhywun wrth fy ochr, "Mae hyd yn oed y coed yn crio yn Gasa."

'Ewch allan'

Adnod ddaeth i'm meddwl i. Proffwydoliaeth un o broffwydi mawr Israel flynyddoedd lawer cyn Crist. "Ewch allan," meddai'r proffwyd "a bydd y bryniau a'r mynyddoedd yn bloeddio canu o'ch blaen a'r coed yn curo dwylo."

Mewn llawenydd

Ond mae'r agwedd wrth fynd allan yn hollbwysig. "Ewch allan mewn llawenydd medda fo - ac mae'r pwrpas wrth fynd allan hefyd yn ganolog i wireddu'r broffwydoliaeth - mewn heddwch y'ch arweinir!!

Pa agwedd a bwriad sydd gennym ni heddiw wrth godi o'n gwelyau i wynebu diwrnod arall, tybed? Pa fath o fyd dani'n ei greu i'r plant o'n cwmpas i dynnu lluniau ohono?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.