Â鶹Éç

Trychinebau

Logo Blwyddyn Ryngwladol Ieuenctid y Byd

gan Hefin Jones
Bore Iau, Awst 12 2010

Er mwyn yr ifanc

Go brin bod neb o wrandawyr y Post Cyntaf heb glywed am yr hyn sy'n digwydd ym Mhacistan.

Ddoe daeth newyddion am y tirlithriad yn China - hwnnw eto yn sgil glaw trwm.

Mae yn agos i 1,500 o bobl wedi eu lladd yn China ac mae'r ffigyrau o Bacistan yn cynyddu'n ddyddiol - bron 2,000 wedi eu lladd ond ymhell dros 12 miliwn wedi eu heffeithio.

Go brin y gall yr un ohonom beidio â theimlo'n hollol ddiymadferth wrth weld y cyfan ar y cyfryngau.

Newid hinsawdd?

Ymateb llawer i'r digwyddiadau hyn yw newid hinsawdd.

Digwyddiadau naturiol yw'r rhain, digwyddiadau sydd wedi ymddangos yn hanes ein byd ers ei greu. Ond mae digwyddiadau o'r fath fel pe byddent yn dod yn amlach - ac mae hynny yn bendant yn rhywbeth mae gwyddonwyr newid hinsawdd yn ei ddarogan.

Holi wna eraill sut fedr Duw, Duw Cariad yw, ganiatáu i'r fath beth ddigwydd. Datgan eraill mai cosb ar ddynoliaeth yw hyn i gyd. Go brin!

Efallai bod methiant y rhyw ddynol i stiwardio'r blaned yn arwain i'r sefyllfaoedd arswydus hyn ond go brin fod Duw Cyfamod Enfys Noa yn mynd ati'n fwriadol i ddinistrio.

Yr ifanc yn diodde

Wrth wylio'r newyddion o Bacistan a China neithiwr, anodd oedd peidio sylwi ei bod yn ymddangos, fel ag yn Haiti adeg y daeargryn, bod yr ifanc yn dioddef yn enbyd.

Hwy, yn aml, sydd fel pe baent wannaf i wrthsefyll effeithiau'r ddrycin. Can fod heddiw yn Ddydd Rhyngwladol Ieuenctid dyma ddiwrnod yn fwy nag unrhyw un arall y dylai ieuenctid Pacistan a China fod ar flaen ein meddyliau.

Eleni, dyma hefyd ddiwrnod cyntaf Blwyddyn Ryngwladol Ieuenctid y Byd.

Mynd ati o ddifrif

Priodol, felly, gan gofio sut mae bywydau cymaint o ieuenctid Pacistan a China wedi cael eu dinistrio - cymaint heb gartrefi, heb ddillad na bwyd, llawer wedi colli eu rhieni - yw i ni benderfynu mynd ati o ddifrif i wneud beth fedrwn dros ein pobl ifanc, boed hynny mewn anogaeth a chydymdeimlad yng Nghymru neu trwy gyfraniad dyngarol ym Mhacistan a China.

Wedi'r cwbl - ac er cymaint y gorddefnydd o'r ymadrodd, ond mae'n gwbl wir - hwy yw ein dyfodol.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.