Biliynau a hatling
"Dedwyddach rhoi na derbyn," meddai'r Testament Newydd ac mae pobl Prydain yn ymateb yn hael iawn i'r apêl i helpu dioddefwyr Pacistan.
Mewn wythnos derbyniwyd tros £4 miliwn i apêl DEC, ond mae'r dioddef a'r dinistr yn cynyddu bob dydd.
Dros y penwythnos darllenais bod 40 o bobl mwyaf cyfoethog Unol Daleithiau'r America wedi penderfynu rhoi mwy na hanner eu cyfoeth i hybu elusennau sydd yn ymateb i anghenion y tlawd a'r anghenus.
Cyn bennaeth cwmni Microsoft Bill Gates a'i briod a symbylodd hyn. Mae cyfoeth y cwbl ohonynt yn cyrraedd bron i £150 biliwn. Golyga hynny bod tros £75 biliwn yn cael ei roi at achosion da - ac mae gan y rhoddwyr fwy na digon tros ben.
Rhoi mwy
Pan welodd Iesu yn y deml un diwrnod y cyfoethog yn rhoi rhoddion hael yn y drysorfa a gwraig weddw yn rhoi dwy hatling, dywedodd, "Yn wir yr wyf yn dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb."
Arian tros ben oedd rhoddion y cyfoethog. Rhoi'r cwbl wnaeth y wraig weddw.
Gwelsom roi ac aberth o fath arall - wyth o wirfoddolwyr gwasanaethgar yn arbenigo mewn gwahanol gyfeiriadau yn cael eu lladd yn Affganistan.
Trychineb ofnadwy. Pobl wedi cysegru doniau i wella ansawdd byw trigolion anghenus Affganistan - pobl aberthwyd ar allor gwasanaeth oherwydd casineb ac eiddigedd.
Yn fraint
Oes mae 'na roi gwasanaeth a hwnnw'n wirfoddol ac, yn aml, yn aberth.
Mae rhoi i wella eraill yn fraint, ac yn gyfrifoldeb, yn alwad i rannu o'n gorau a diolchwn pan yw y rhoi yn dwyn ffrwyth.
"Dedwyddach rhoi na derbyn".