Cân aderyn glân
Mae'r Sioe yn tynnu tua'i therfyn. Da iawn y Cardis. Sioe y Cardis oedd hon.
Fe glywais i lawer am y cobiau a'r cneifio, y moch a'r moch daear, y gwartheg a'r gwobrau ... ond chydig o sôn glywes i am y dofednod.
Diddordeb yn y dywediad ei bod hi'n cymryd 'deryn glân i ganu' sy gen i.
Meddai'r Arlywydd Obama - "David, dwi isho ymchwiliad trylwyr i'r cefndir o ollwng yr Al Magrahi 'na o garchar".
Ers y dydd y daeth Magrahi o'r carchar mae'r Americaniaid wedi gweld hynny yn destun dirmyg ar gyfiawnder.
"Barak bach, nid y ni ddaru, ond yr Albanwyr."
Beth oedd y dewis? Mentro gadael iddo farw yn y carchar a derbyn canlyniadau hynny? Onid oes cymal yn neddfau'r Alban sy'n caniatáu trugaredd [compassion]?
Onid oedd deddfau Hywel Dda hefyd yn pwysleisio synnwyr cyffredin ac yn caniatáu trugaredd yn hytrach na chosb?
Gwadu mewn llythyr
Yn ei lythyr a anfonwyd ddoe at seneddwyr America mae Alex Salmond yn gwadu mai gwystl mewn gêm o wyddbwyll oedd Magrahi, gêm o gytundeb rhyngwladol gwerth miliynau o bunnau oedd yn effeithio ar gannoedd o swyddi ym Mhrydain.
"Dyn sy'n marw o gancr yw Magrahi," medd Salmond, "ac fe ddangoson ni drugaredd tuag ato."
Tosturi hwyrach. Nid trugaredd. Rhodd gan Dduw yw trugaredd i waredu Dyn oddi wrth ei bechod. A dyna rywbeth na all Dyn na llywodraeth ei gyflawni.
Pennaeth MI5 yn dweud wrth Ymchwiliad Chilcot mai effaith rhyfel Irac oedd cynyddu y perygl i'r gwledydd gorllewinol o du'r Mwslemiaid. Oedd y deryn brith yn dadlau hynny ar y pryd, pan oedd hi mewn awdurdod?
Negeseuon cymysglyd
A nawr mae negeseuon cymysglyd rhwng y Glymblaid am ddyddiad tynnu'r milwyr allan o Afghanistan. Clegg yn dweud un peth yn y senedd. "David" yn dweud rhywbeth gwahanol yn yr US of A.
Obama neu Osama sydd hapusa?
Ydi, mae hi'n cymryd deryn glân i ganu. Felly, tewi sydd orau i minnau.