Ar Bont-ar-Ddyfi, ddechrau Awst 1961, y saethwyd y Cwnstabl Arthur Rowlands. Mae o, bellach, yn wyth a phedwar ugain ac, o bosibl, yn gwrando'r eiliadau yma.
"Dw i am dy ladd di," meddai'r llais o'r tywyllwch - ac mi roedd Boyden, y gŵr a saethodd Arthur, fel Raoul Moat, yn orffwyll. Yna, yr ergyd gwn ddaru ddiffodd ei ddau lygaid o am byth.
Echnos, wedi gwylio'r cyfweliad teledu fedrwn i, am funud, ddim symud cam o 'nghadair. Ydi hanes yn medru ailadrodd ei hun mor gysáct?
Pwy o'n i'n glywed yn siarad? Arthur yn Awst 1961 ynteu'r Cwnstabl David Rathband yng Ngorffennaf 2010?
Meddai Arthur am ei brofiad o, "Roedd yna sŵn rhuo yn fy nghlustie i ac eto ro'n i'n clywed sŵn fel tap yn diferu - drip, drip, drip . . . a dw i'n cofio meddwl, 'Dyma'r diwedd'."
Ac mi ddeudodd David Rathband eiriau a oedd yn frawychus o debyg. Y ddau ohonyn nhw'n briod, hefo dau o blant a'r un math o dduwch yn eu hwynebu nhw.
Be ddaw o Rathband, wn i ddim. Wedi dros ddeng mlynedd ar hugain o gyfeillgarwch a chydweithio, mi wn i'n dda iawn be ddaeth o Arthur Rowlands - a'i deulu.
Diolchgarwch a'r gallu prin hwnnw i fedru maddau. Clywis i o'n deud sawl tro, "Tawn i'n ei weld o rŵan," - ac mi ddefnyddith y gair gweld, reit aml - "mi sgydwn i law hefo fo. Dyn allan o'i bwyll oedd o."
Ac mi ddeudodd y Cwnstabl Rathband drwy'i gur i gyd, "Dw i'n dal dim malais."
Tybed?
Mae'r gyfrol sgwennodd Enid Baines, Mae'r Dall yn Gweld, yn diweddu fel hyn:
"Mae ceisio cael gafael ar gyfrinach mawredd Arthur fel ceisio dal yr enfys. Allwn ni ond edrych a rhyfeddu a dweud, fel y dywedwyd am Moses gynt: 'Efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig'."
Sgin i ond gweddïo y caiff y Cwnstabl Rathband weledigaeth debyg.