Â鶹Éç

Geiriau'r wythnos

Elfyn Pritchard ddiwrnod Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2011

gan Elfyn Pritchard
Bore Mercher Gorffennaf 7 2010

Mae ne frawddeg, pennawd, digwyddiad, a llinell o farddoniaeth wedi bod yn troi yn y mhen i y dyddie dwetha ma, a maen nhw'n trio deud rhywbeth wrtha i.

Y frawddeg

Un o bregeth glywais i erstalwm gan y diweddar Meurwyn Williams, oedd o'n deud y drefn ein bod fel cenedl yn ffraeo am rywbeth o hyd.

Ei destun oedd ymosodiad Babilon ar y genedl Iddewig ac medde fo fel tase fo'n methu coelio'r peth - y genedl wedi ymrannu a'r gelyn, milwyr Babilon wrth y pyrth.

Darlun o Gymru medde fo. Ydio'n ddarlun gwir heddiw tybed?

Y pennawd

Un Lyn Ebenezer yn Y Cymro, "Beirniad ydw i nid gelyn".

Pennawd pwysig. Mae ne ymgecru y dyddie yma dros fesur yr iaith, dros y toriade sydd ar ddod, dros gynllunie newydd byd amaeth, dros gau ysgolion ac ail drefnu addysg.

Ac mae anghytuno a beirniadu adeiladol yn iawn ac yn bwysig.

Ond gwyliwn ni i feirniadaeth droi yn elyniaeth. Pan glywa i eirie fel bradwr a sinistr a chynllwynio dwi'n teimlo bod y beirniad yn troi yn elyn ac mae gelyniaeth at ein gilydd yn gwanhau'r genedl.

Y digwyddiad

Cyhoeddi'r Eisteddfod Genedlaethol yma yn Wrecsam.

Digwyddiad pwysig ar ddechre mis o ddigwyddiade arbennig, eisteddfod Llangollen yr wythnos yma, y sioe frenhinol mewn pythefnos, yr eisteddfod genedlaethol yng Nglynebwy ymhen y mis.

Uchel wylie pwysig y genedl i gyd yn cael eu cynnal nid trwy ymgecru ond trwy gydweithio, am fod pobol yn gallu bod yn gytun.

Pe bai ne elynieth yn codi ei phen yn y pethe hyn mi fydden yn marw, fel y bydd y genedl yn marw os na fedrwn ni fod yn unol.

Mae'r gelynion yn dal o gwmpas cofiwch.

Y llinell

Un o gerdd gan Islwyn yw'r llinell.

Mae'r oll yn gysegredig.

Mae ynddi neges i bawb, yn arbennig os meiddia i awgrymu i newyddiadurwyr cyfrynge a chylchgrone'r genedl sy weithie'n pesgi ar anghytuno a ffraeo.

Cofiwch mai Cymry ydych chi a bod y genedl yn bwysicach na newyddiaduriaeth, a bod popeth ynglŷn â'r genedl yn bwysig, yn wir yn gysegredig.

Brawddeg, pennawd, digwyddiad, llinell. Maen nhw'n trio deud rhywbeth wrtha i.

Yden nhw'n deud rhywbeth wrthoch chi?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.