Erbyn y bore 'ma, fel y gwyddoch chi hwyrach, mae gin dîm pêl-droed dinas Lerpwl reolwr newydd.
Ond a fydd Capello'n cadw'i le sy'n gwestiwn arall. Ond petai hwnnw'n cael ei gardiau fory nesa, mi fydd yna ddigon o ddrysau eraill yn agor o'i flaen o ac mi geith, yn ôl y papurau newydd, ddeuddeng miliwn o bres pocad.
Gweithwyr eraill
Ond meddwl dw i'r funud yma am weithwyr Cwmni Barcud Derwen yng Nghaernarfon 'cw sy newydd golli'u swyddi - a'u pensiynau o bosibl - a does yna ddim arwyddion bod yna ddrysau eraill yn agor o'u blaenau nhw.
Ac i mi, mae cofio hynny'n gyrru'r dyfalu ynghylch Capello a'r iwfforia ynghylch Roy Hodgson i'r tudalennau cefn.
Rŵan, hwyrach mai'r gair 'Capello' sy'n peri imi'r funud yma feddwl am gapel.
Cario'r bai
Ym myd pêl-droed, pan fydd tîm yn colli, yna, y rheolwr sy'n gorfod dwyn y bai ac mae yna ias o debygrwydd rhwng rheolwr tîm pêl-droed a ficer neu weinidog.
Wel ym mywyd eglwys, y fo neu hi sy'n gyfrifol am yr ymarferion ac ar ddiwedd y dydd mae ganddo fo neu hi ryw gyfrifoldeb does am y sgôr?
O feddwl felly, hwyrach y dyla' 'mod i a fy siort wedi cael ein cardiau flynyddoedd yn ôl - wrth gwrs, cyn belled ag mae'r Eglwys yng Nghymru yn y cwestiwn hwyrach y byddai hi'n bosibl iddyn nhw sacio'r esgob!
Dwy gêm wahanol
Ond clywch, 'da ni'n sôn am ddwy gêm cwbl wahanol tydan? Ac nid yr un ystyr sydd i'r ennill a'r colli. A prun bynnag, dydi'n gêm ni ddim drosodd eto - ddim ar lefel cwpan y byd yn siŵr - a ŵyr neb ddim be fydd y sgôr yn derfynol.
Mewn tŷ ffarm yng nghylch y Bala, ar amser te, y gwelis i dîm Lloegr yn cael chwip din ond o sôn am y gêm arall 'na, dyna falch o'n i o weld bod yna bobl o hyd yn eglwysi Penllyn yn dal i ddysgu sgiliau byw i blant a phobl ifanc.
A hynny heb unrhyw berygl o golli'u job. Achos, ddaw neb yn eu lle nhw. Wel, hyd y gwyddon ni 'te?