麻豆社

Gormodedd

Huw Tegid

gan Huw Tegid
Bore mercher Mehefin 9 2010

Daeth boreau cynnar yn fwy cyfarwydd i mi'n ddiweddar, ers i ni gael ein plentyn bach cyntaf ychydig dros saith wythnos yn 么l.

Fel y gwyddoch chi, pan fydd babanod yn penderfynu eu bod nhw eisiau bwyd, yna mi fydd gofyn codi ar unwaith o'ch gwely cynnes i'w bwydo.

Yn ystod y dyddiau cyntaf ar 么l i ni ddod adref o'r ysbyty, roedd Gwen fach 'cw yn dueddol o orfwyta a'i stumog hi'n methu dygymod 芒'r fath swm o fwyd. Yn llythrennol, dwi'm yn amau, roedd ei llygaid hi'n fwy na'i bol.

Wrth iddyn nhw dyfu'n oedolion, ac wrth i'w rhieni nhw sylweddoli faint o fwyd maen nhw ei angen, daw babanod i sylweddoli faint sydd ei angen i'w cynnal nhw am y tro.

Dechrau amau

Wel, dyna'r theori, beth bynnag ond wrth edrych ar rai o'r penawdau newyddion bore 'ma, mae rhywun yn dechrau amau hynny.

Dyna i chi alwad George Osborne, Canghellor y Trysorlys, ar i bawb ohonom fod yn rhan o ymgynghoriad ar ddyled Prydain. Mae angen ailystyried sut mae'r wlad yn gwario ei harian, meddai Mr Osborne, gan i'w rhagflaenwyr nhw yn y llywodraeth wario'n rhy afradlon.

Mewn banc

Dyna i chi hanes Jerome Kerviel, wedyn, un o hapfasnachwyr banc y Societe Generale yn Ffrainc, sy'n wynebu achos llys ar 么l i drosdros bedwar biliwn o bunnoedd gael eu colli - ie, dyna chi, biliwn ddywedais i - o arian y banc hwnnw.

Wrth geisio chwyddo coffrau'r banc aeth y twll yn ddyfnach bob tro. Ac o s么n am dyllau, beth am hanes y twll hwnnw ym mhibell olew BP oddi ar arfordir Unol Daleithiau'r America?

Trychineb mwyaf

Dyma'r trychineb amgylcheddol mwyaf a welodd y wlad farus honno erioed, yn 么l y s么n. Mae ugain miliwn a mwy o alwyni o olew wedi llifo o'r bibell i'r m么r a phwy 芒 诺yr pryd y daw pethau yn 么l i drefn yno.

Wrth glywed y stor茂au hyn i gyd, mae rhywun yn cofio am yr hen chwedl honno am y dyn oedd yn gwerthu melin a oedd yn cynhyrchu faint fynnech chi o win. Mi gymrodd y prynwr y felin yn awchus, gan fethu credu ei lwc - cyflenwad di-ben-draw o win.

Eisiau ac angen

Pan ddychwelodd y gwerthwr rai wythnosau'n ddiweddarach, roedd llyn mawr o win yno, a'r perchennog wedi boddi yn y gormodedd o win. Er ei fod o wedi deall sut roedd cychwyn y peiriant, yn ei frys i fwynhau'r gwin, doedd y prynwr ddim wedi cofio holi beth fyddai o ei angen ei wneud pan oedd o wedi cael digon.

Gydag elw a chynnydd personol yn cael blaenoriaeth dros bob dim arall gan gynifer, onid oes gofyn edrych ymhellach na hynny, a dysgu beth ydi'r gwahaniaeth rhwng 'eisiau' ac 'angen'?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.