Â鶹Éç

Cadeiriau ac eisteddfodau

Y bardd cadeiriol gyda Jean Jones, gweddw Dic Jones

gan Beti wyn James
Bore Gwener Mehefin 4 2010

Bore Gwener Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn ogystal â'r wledd o gystadlu yr ydym eisoes wedi'i mwynhau yn ystod yr wythnos, heb sôn am yr hyn sydd i ddod eto, rwy'n siŵr fod pawb yn llawenhau hefyd yn y ffaith bod 'na deilyngdod wedi bod ym mhob un o brif seremonïau'r Ŵyl hyd yn hyn!

Chwerw felys

Pnawn ddoe, mae'n siŵr gen i mai rhyw deimlad chwerw felys i deulu'r Hendre oedd gweld Llyr Gwyn Lewis - bardd ifanc soffistigedig a chyffrous yn ôl y beirniaid - yn codi ar ei draed ar ganiad y ffanffer ac yna'n eistedd yn y gadair a gyflwynwyd gan y teulu er cof am ŵr a thad a thad-cu annwyl, Dic Jones.

Mae'r arfer o gynnig cadair yn wobr mewn Eisteddfod yn hen erbyn hyn.

Cadair Caerfyrddin

Mae na sôn bod rhoi cadeiriau yn wobrau i feirdd a cherddorion mewn eisteddfod yn mynd 'nôl cyn belled â'r flwyddyn 1176 ac i'r Steddfod a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi.

Ac i ni sy'n byw yng Nghaerfyrddin, daeth i'r golwg yn gymharol ddiweddar, gadair Eisteddfod Caerfyrddin 1819 a grefftiwyd gan y saer coed David Morley o'r dre - y gadair gyntaf a wnaed yn benodol ar gyfer Prifwyl.

Da o beth oedd bod y perchennog yn Rhydychen am i'r gadair fynd yn ôl i'w sir wreiddiol a chytunodd y byddai'n cael ei harddangos yma yn Amgueddfa Sir Gâr.

Mae cadair yn ddarn o ddodrefn o statws ac iddi arwyddocâd symbolaidd erioed. Yr hyn a wnawn â chadair yw eistedd ynddi wrth gwrs! Neu, ishte yn achos rhai ohonom! A dyma gysylltu cadair gyda'r gair eisteddfod.

Yr henaduriaid

Yn yr Hen Destament, cyfeirir at y man lle byddai'r Henuriaid yn Llwyodraethu yn fel Eisteddfa'r Henuriaid sef y man lle y byddai'r Henuriaid yn eistedd er mwyn llywodraethu.

Yr enghraifft gynharaf sydd gennym o'r gair eisteddfod yw yn y Llawlyfr Gweddi Cyffredin ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain sy'n dweud am Dduw "Dy eisteddfod Di sydd yn y nefoedd".

Mae William Williams Pantycelyn yn ymbil trwy gyfrwng un o'i emynau ar i Dduw "ennill it eisteddfod (eisteddfa) dawel yn y galon garreg hon".

Pob calon garreg

A dyna chi eisteddfod fydd honno -pan fydd Duw yn llywodraethu ymhob calon garreg.

A'r nef a ŵyr bod angen, ar frys, yr eisteddfod honno i ymweld nid yn unig â phob ardal yng Nghymru ond â phob calon ddynol ledled byd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.