Â鶹Éç

Unigrwydd

Cerflun o Eleanor Rigby yn Lerpwl

Llaw i fyny, bawb sy'n cofio cân y Beatles, Eleanor Rigby.

O diar, dyna ddeud rhywbeth am oedran y gwrandawyr! 1966 oedd y flwyddyn y cyfansoddodd Lennon a McCartney eu cân enwog am y ferch unig honno.

Dydd Mawrth diwethaf cyhoeddodd y Sefydliad Iechyd Meddwl adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod Eleanor Rigby dal yn fyw yng ngwledydd Prydain.

Un o bob deg

Yn ôl yr adroddiad, mae un o bob deg o'r boblogaeth yn teimlo'n unig yn amal. Rŵan, ar un adeg byw ar eich pen eich hun oedd y ddelfryd: cafodd miloedd lawer o fflatiau pwrpasol eu codi ar hyd a lled y wlad er mwyn bodloni ysfa pobol am annibyniaeth ond, i lawer, mae'r freuddwyd honno wedi troi'n sur.

Dyma ichi beth arall: mae'n ddigon hawdd heddiw cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau ar Facebook, ebost a Skype ond mae un o bob pump ohonom ni'n colli'r cysylltiad personol, wyneb yn wyneb.

Unigedd ac unigrwydd

Dyw unigeddddim yn beth drwg, cofiwch; yn wir, mae'n bwysig inni wneud amser i ni'n hunain, yn rhydd o ofynion pobol eraill. Oherwydd bod yna gymaint o ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad heddiw, mae'n hawdd inni feddwl bod rhaid inni fod yng nghanol pob peth o hyd.

Ond pan fydd unigedd yn troi'n unigrwydd ac yr awn i deimlo'n ynysig mae yna broblem.

Gallwn deimlo'n unig weithiau yng nghanol tyrfa, ac rydan ni i gyd wedi teimlo'n unig iawn ambell dro yng nghanol llond ystafell o bobol yn siarad â'i gilydd.

Gosod her

Mae'r adroddiad wedi codi her inni i gyd. Yn un peth, dylai wneud inni werthfawrogi cwmnïaeth ein ffrindiau'n fwy, a'n perswadio i wneud yr ymdrech i fynd i weld y teulu'n amlach.

Dylai hefyd ein gwneud yn fwy parod i rannu'r peth mwyaf prin sydd gennym, sef ein hamser, fel na fydd neb o'n cwmpas ni yn unig.

Peidiwch â bod yn ddiarth i'ch gilydd!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.