O'r Neuadd-lwyd i Fadagasgar
Pos bach. Beth sy'n cysylltu'r gyflwynwraig Eleri Sion â Madagascar a Thŷ John Penry?
Na dw i ddim yn meddwl am y ffilm gartŵn honno gyda'r anifeiliaid sy'n siarad ond am yr ynys go iawn oddi ar arfordir Affrica!
Wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Llanerchaeron, mae hi'n gyfle i ni gofio am gyfraniad pwysig yr ardal honno i genhadaeth Gristnogol fydeang.
Beth yw'r cysylltiad felly? Wel, Neuadd-lwyd, cartre'r cyflwynydd boreol sy'n hoff o rygbi, a lleoliad academi ddylanwadol i hyfforddi cenhadon, a sefydlwyd yn Neuadd-lwyd ddau can mlynedd yn ôl i eleni gan yr Annibynwyr.
Yn genhadwr
O'r fan honno yr aeth y Parchedig David Jones yn genhadwr i Fadagascar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dioddef amodau eithriadol o anodd wrth geisio cyflwyno'r efengyl i frodorion yr ynys.
Y gwaith mwyaf gafodd e oedd cyfieithu'r Beibl i'r iaith Malagasy, nad oedd hi hyd yn oed yn iaith ysgrifenedig ar y pryd.
Cymaint fu ei ymroddiad i'r gwaith fel y caiff y dyn hwn o gefn gwlad Cymru ei ystyried yn un o sylfaenwyr gwladwriaeth Madagasgar hyd heddiw, ac yn un o dadau'r genedl honno.
Mae Capel Neuadd-lwyd o fewn tafliad carreg i faes yr Urdd eleni. Adfail yw'r academi bellach ond tu fas i'r capel, wrth ochr yr hewl fach sy'n rhedeg heibio i dalcen yr addoldy, mae cofeb i'r cenhadon cynnar hynny a fentrodd gymaint - bron â mentro'u bywydau a dweud y gwir - i ledu'r Gair ym Madagascar.
Enwi stafell
I gofio am gyfraniad David Jones, ynghyd â David Griffiths Gwynfe, a chenedlaethau o genhadon Cymreig a aeth i Fadagascar, aeth Undeb yr Annibynwyr ati i enwi un o ystafelloedd eu pencadlys, Tŷ John Penri yn Abertawe, yn Ystafell Madagascar. A dyna i chi'r cysylltiadau yn grwn.
Yr wythnos nesaf, cenhadu o fath gwahanol fydd ar feddyliau pobl Dyffryn Aeron, cenhadu dros y Gymraeg ar garreg y drws. Ond wrth i genhedlaeth newydd o blant fynd ati i gofio am Gymru. Cyd-ddyn a Christ, falle y gall ambell un droi ei olygon at Neuadd-lwyd a chofio am genhedlaeth a aeth oddi yno â neges ewyllys da o fath gwahanol, neges sy'n dal i gael dylanwad ddau can mlynedd yn ddiweddarach.