Yn rhestr testunau un o eisteddfodau bro Ynys Môn mae cystadleuaeth ffotograffiaeth, sy'n gwahodd cystadleuwyr i gyflwyno, "Dau ffotograff cyferbyniol naill ar gylchoedd neu newid."
Yr wyf yn dehongli 'newid' yn y fan yna fel un darlun o le neu rywun neu rywbeth fel ag yr oedd gynt i'r hyn yw yn awr.
Mae na ffordd arall o'i ddehongli fel yr wyf wedi sylwi arno'n ddiweddar.
Yr un yw sefyllfa y gwledydd hyn yn awr ag oedd cyn yr etholiad ond bod y llywodraeth newydd yn amcanu newid mewn ffyrdd cwbl wahanol i'r llywodraeth o'i blaen.
Ar un llaw yr ydym yn cwyno fod cymaint wedi newid ac ar y llaw arall yr ydym yn rhyfeddu ac yn diolch am y newid er gwell sydd yn helpu i oresgyn afiechydon a rhoi addysg well.
Mae newid mewn nifer o gyfeiriadau eraill hefyd sy'n llesol. Un gri sydd gan lawer o grefyddwyr bellach yw gresynu fel mae pethau wedi newid er gwaeth ac mae'r newid yn parhau i waethygu.
Eto, mae newid llawer gwell mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru hyd yn oed yn y cyfeiriad yna.
Byddai bywyd yn ddiflas iawn pe byddai bawb yn byw yr un fath yr un syniadau, yn meddwl a credu ru'n fath - mae amrywiaeth i ddiolch amdano, ac ymhob agwedd o'r amrywiaeth, mae 'na rhai bethau gwerth sylwi arnynt.
Y dasg mewn crefydd a chyfeiriadau eraill o gymdeithas yw dod â'r amrywiaeth at ei gilydd fel bo gweddi Iesu yn cael ei hateb, "Rwy'n gweddïo ar iddynt oll fod yn un."
A phe bai yr amrywiol agweddau a syniadau ac arferion yn gweithio gyda'i gilydd fel un, efallai y gwelwn ninnau newid fyddai'n gwella a sefydlogi ein cymunedau a'n cymdeithas heddiw.