Bai rhy debyg!
Yn ei nofel, Dewines Fflorens, mae un o gymeriadau Salman Rushdie yn dweud rhywbeth fel hyn:
"Melltith y ddynoliaeth yw, nid ein bod ni mor wahanol i'n gilydd, ond ein bod ni i gyd mor debyg i'n gilydd."
Yr un gwendidau, yr un beiau, a'r un rhinweddau.
Os down ni i nabod bywyd yn Mwmbai, fe ddown ni i'w nabod ym Myddfai.
Ond cyn y gallwn ni gael rhyfel mae'n rhaid inni feddwl ein bod ni'n wahanol i'n gilydd, a gweld rhyw elyn sy'n hollol annhebyg i ni ac fe laddwn ni fe.
Yn ein golwg ni bydd y gelynion yn gas, tra byddwn ni'n garedig; byddan nhw'n ddieflig tra byddwn ninnau'n drugarog.
Ac eto, brodyr Å·m ni. Mae holl ryfeloedd hanes fel cwerylon mewn teulu ac mae'r rheini'n medru bod yn ddifrifol o greulon. Ac eto un teulu Å·m ni, ac yn eithriadol o debyg i'n gilydd.
Pam gresynu?!
Pam ar wyneb y ddaear y clywaf i bobol yn gresynu nawr fod dwy blaid yn medru cydweithio â'i gilydd. Pam y bydd pawb fel petai'n dal ei anadl gan ddisgwyl rhyw ffrwydrad o anghytundeb ddod i rwygo'r cwbwl?
Parhaed brawdgarwch ddweda i; bydd hynny'n well na'r bugunad anifeilaidd y byddem yn arfer ei glywed rhyngddyn nhw gynt.
Pam na all dau frawd gystadlu'n gwrtais â'i gilydd am fod yn arweinydd eu plaid, heb gael rhyw bryfocwyr casineb yn gwthio'u gwenwyn rhwng y ddau?
Yng ngeiriau Martin Luther Kimg, Mae'n rhaid inni fyw gyda'n gilydd fel brodyr neu farw gyda'n gilydd fel ffyliaid.