Mae'n siŵr bod y rhan fwya ohonoch chi wedi bod yn dilyn digwyddiadau rhyfeddol y deg diwrnod diwethaf o'r lecsiwn ar Fai 6 hyd ffurfio'r glymblald rhwng y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mi gafodd y teledu a'r papurau newydd gynhaeaf toreithiog.
Cryn bryder
Mae 'na un agwedd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn gryn bryder i mi.
Cyn yr etholiad roedd y Democratiaid yn cyhoeddi eu bod yn bwriadu atal y taflegryn Trident ond y mae'n amlwg erbyn hyn eu bod wedi gorfod ildio i bolisi'r Torïaid i'w gadw.
At hyn eto, fe ddywedir i'r Ysgrifennydd Tramor newydd, William Hague, ymweld â'r Merica i gyfarfod Hilary Clinton a chyn mynd fe gyhoeddodd fod Prydain yn bwriadu cadw'n ddi-dor y berthynas arbennig rhyngom a'r Merica, a hynny'n golygu dealltwriaeth am Afghanistan, a'r un agwedd galed tuag at Iran.
Nid oedd yn gweld y byddai hyn yn arwain at ryfel gydag Iran yn y dyfodol agos ond nid oedd am gau allan yn llwyr y posibilrwydd o ryfel arall ryw dro.
Anghyfrifol
Y mae agwedd fel hyn yn achos pryder mawr i unrhyw un ystyriol.
Wrth gwrs, yr ydan ni i gyd yn derbyn y bydd na wasgfa ariannol lem iawn y blynyddoedd nesaf yma ond anghyfrifol ydi awgrymu y gallai bod rhyfel arall ymhen rhai blynyddoedd.
Rydan ni wedi dilyn America yn slafaidd i ddwy ryfel yn barod.
Fe ddylem ni fod yn barod bellach i ddweud digon yw digon ac na fyddwn yn barod i'w dilyn byth eto.