Fe ddwedodd rhywun am Stephen Harper, Prif Weinidog Canada, ei fod e'n deall ystyr y gair "prif" yn iawn, ond nad oes fawr o glem gydag e beth yw ystyr y gair "gweinidog".
Mae e'n trafod ei gabinet fel petai e'n unben.
Fe allech chi ddweud hynna am ambell Brif Weinidog arall yn nes atom ni. Gwas yw "gweinidog", a gobeithio y bydd gan yr un nesa gawn ni nawr ddigon o wyleidd-dra i gofio hynny.
Y bobl
Gwas i bwy?
Fe allech chi fod wedi meddwl o weld y mynd a'r dod yna neithiwr mewn ceir, mai gwas i deulu'r plas yw e. Ond nage.
Hanfod brenhiniaeth yw fod brenin yn ymgorfforiad ei bobol. Felly gwas y bobol yw'r Prif Weinidog, a'r Prif weinidogion sydd wedi sylweddoli hynny yw'r rhai sydd wedi cyflawni daioni i'w gwerin.
Un o'r ymadroddion mwya erchyll y bydda i yn eu clywed o dro i dro yw fod rhywun yn weinidog ar eglwys neu ar nifer o eglwysi, yn union fel petai e'n bennaeth arnyn nhw.
Fe allwch chi fod yn weinidog "i" eglwys neu'n weinidog "mewn" eglwys, ond os ydych chi am fod yn weinidog "ar" eglwys, Pab fyddwch chi.
Gostyngeiddrwydd
Felly gostyngeiddrwydd piau hi, David Cameron. Cofia nad Dafydd Frenin fyddi di.
Ond gan fydd dy dymor di yn dibynnu ar ddieithriaid o fewn dy lys, efallai y bydd hynny'n ffrwyno dy falchder di. A phwy a ŵyr na fyddi di drwy hynny yn dangos i'r gweddill ohonom ni y ffordd i fod yn weision i'n gilydd.