Â鶹Éç

Arian cymorth

Un o blant Haiti

gan Harri Owain Jones
Bore Mawrth, Mai 11 2010

Pedwar mis i heddiw - yfory o ran dyddiad - y digwyddodd daeargryn Haiti, pryd y gwelsom ddarluniau erchyll ac arswydus o ddinistr a cholli bywyd na welwyd ei debyg.

Ni chlywir fawr ddim ar y newyddion am Haiti erbyn hyn ond mae ambell i ddarlun yn glynu yn y cof, fel y bachgen bach Kiki yn cael ei dynnu yn fyw wedi ei gladdu am ddyddiau dan y rwbel, a'i fam yn disgwyl amdano.

Gweithio'n galed

Mae'n dda gwybod sut y defnyddir yr arian a gasglwyd gan y gwahanol asiantau, sydd gyda'i gilydd yn gweithio'n galed i helpu.

Mewn cyfweliad fideo, yn ateb cwestiynau, dywed Nigel Timmins 0 Gymorth Cristnogol bod y bobl yn ymdrechu at normalrwydd - siopau a marchnadoedd yn ail agor, ysbytai ac ysgolion ac eglwysi, rhai yn yr awyr agored, eraill mewn pebyll, am fod yr adeiladau wedi'i ddinistrio.

Cychwynnwyd cymdeithasau i bobl ddod at ei gilydd i rannu profiadau, teimladau ac adnoddau. Mae meysydd chwarae wedi eu troi'n foroedd o bebyll sy'n gartrefi i filoedd.

Wedi chwalu

Oherwydd bod teuluoedd wedi eu chwalu yn y gwahanol wersylloedd, y naill a'r llall yn credu eu bod wedi marw, ymdrechir i adfer teuluoedd.

Ail gychwynnwyd amaethu'r tir a swyddi eraill, yn ennyn hyder pobl o bob oed.

Do, casglwyd arian anhygoel at yr apêl ond mae angen pob ceiniog gan y bydd hi'n flynyddoedd cyn y gellir adfer cartrefi a bywyd normal.

Mae creithiau galar, a dychryn ac ofn yn aros. Peidiwn a'u anghofio, oherwydd maent angen ein cefnogaeth, a'n gweddïau o hyd ar ran y bobl a gweithwyr yr asiantau.

Yn frawd a chwaer

Allwn ni dderbyn, bod pob un yn Haiti yn frawd a chwaer inni, a'n bod yn perthyn i'r un teulu dynol a ni?

Yn wythnos Cymorth Cristnogol cawn gyfle i adnewyddu ein cyfrifoldeb a'n consyrn.

Dywedodd Iesu, "Yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch." Ystyriwn.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.