Â鶹Éç

'Hustings' Cristnogol

Pleidlais o bwy?

gan Geraint Morse
Bore Iau Ebrill 22 2010

Nos Lun diwethaf, bum yn cadeirio noson o hustings Cristnogol yng Nghaerfyrddin. Menter ar y cyd oedd hon rhwng nifer o eglwysi'r dre er mwyn gofyn i'r ymgeiswyr seneddol fynegi barn ar faterion moesol a chrefyddol.

Roedd dipyn o waith wedi bod yn trefnu'r noson o flaen llaw:

  • Cytuno ar drefn y noson
  • Gwahodd ymgeiswyr
  • Hysbysebu'r noson
  • Gwahodd cwestiynau ar bapur o flaen llaw.
  • Trefnu lluniaeth ysgafn

Braf oedd gweld y Festri yn llawn gyda dros 70 o bobl yn awyddus iawn i wrando ar atebion yr ymgeiswyr oedd yn gobeithio ein denu i roi croes gyferbyn â'u henwau.

Dechreuodd y noson gyda phob plaid yn cael cyfle i gyflwyno ei hunan mewn dwy funud yn unig. Roedd hyn yn dipyn o her a bu rhaid imi chwythu'r chwiban ar bron bob un, gyda'r geiriau'n dal i lifo!

Yna, cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau o baratowyd ymlaen llaw. Doedd yr ymgeiswyr ddim yn gwybod beth oedd yn dod ac roedd yn ddiddorol iawn eu gweld yn ceisio ateb y cwestiynau.

Dyma rai o'r cwestiynau

  • A ydych yn meddwl bod hawliau cyfartal yn golygu bod Cristnogion yn cael eu cau allan o fywyd cyhoeddus?
  • A ddylai fod yn drosedd i ddweud fod gwrywgydiaeth yn bechod?
  • Beth ydych am ei wneud i ddelio â phroblem cam ddefnydd o gyffuriau yn ein cymdeithas?
  • Beth bynnag yw eich barn bersonol chi, pan ddaw'n bleidlais yn NhÅ·'r Cyffredin, a oes rheidrwydd arnoch i ddilyn chwip y blaid?

Mae'n amhosibl - ac efallai'n annheg - sôn am yr atebion a gafwyd ond gallaf eich sicrhau i'r noson fod yn un hynod o werthfawr.

Mae 'na bethau sy'n ofid i bobl sydd yn arddel ffydd a'n cyfrifoldeb ni yw mynegi'r pryderon hyn yn gyhoeddus.

A ble'n well nag mewn hustings Cristnogol? Dyw hi ddim yn rhy hwyr eto i chi drefnu un yn eich ardal chi.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.