Wedi'r wythnosau o heip, dyma ni, neithiwr yn ista i wylio'r sioe dyngedfennol. Chawsom ni ddim byd mor danllyd â llosgfynydd Gwlad yr Iâ gan fod pob gair ac ystum wedi ei ymarfer ac yn ei le'n daclus.
Rhoi marciau?
Wn i ddim faint ohonom aeth ati i wylio efo'n cardiau bingo'n barod i hapchwarae ar eiriau ac ymadroddion rhwydd ein harweinwyr. Wn i ddim, chwaith, faint ohonom aeth ati i roi marciau i'r tri ohonynt yn ôl sawl gwaith - os o gwbl - y llwyddont i wneud inni chwerthin, neu sawl tro wnaethon nhw wylltio neu sniffio neu edrych ar eu horiawr.
Mae'n rhaid bod y straen arnynt yn aruthrol - ond does fiw iddynt chwysu achos, ych a fi, pwy sa'n pleidleisio drostynt wedyn!
Syndod i mi na fyddai'r cwmnïau sy'n creu'r cemegau i atal chwys wedi manteisio mwy ar y cyfle marchnata oedd ar blât iddynt neithiwr!
treulio'r cyfan
Mi gawn ni wythnos arall, rŵan, i dreulio'r cyfan - gyda'r newyddion yn ailadrodd unrhyw sylwadau bachog a lwyddodd i godi gwên, neu unrhyw lambastiad geiriol a barodd wg neu fudandod eu gwrthwynebydd.
Yn siŵr i chi, mi fydd y tri arweinydd yn treulio oriau bwygilydd yn ymarfer ar gyfer yr ornest nesaf gyda'r arbenigwyr body language a delwedd yn ceisio'u cymhwyso i'n hudo a denu'n pleidlais.
Y sylw i gyd ar ddelwedd unigolion a'u hymadroddi slic. Y ffaith fod rhywun yn gwneud camgymeriad neu'n llithro mewn unrhyw ffordd yn cael ei chwyddo a'i gorddi i mewn i'n meddyliau ni gan y cyfryngau.
Delwedd a brand
Ai dyna yw democratiaeth, felly? - delwedd a brand yn ennill pleidlais a grym?
Gwell gen i ddilyn cyngor amserol rhyw saer coed o Nasareth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl - gochelwch rhag gau-broffwydi sy'n dod atoch yng ngwisg defaid ond sydd, o'u mewn yn fleiddiaid rheibus! Gwatsiwch gael eich brathu wedyn!