麻豆社

Gwener y Groglith

Cario'r Groes

gan Anna Jane Evans
Bore Gwener, Ebrill 2 2010

Dyma ni ynghanol paratoadau etholiad arall - yn cael ein diflasu gan addewidion gwag y naill ochr a'r llall i beidio codi trethi neu i beidio torri ar y gwasanaethau cyhoeddus.

Peth ofnadwy ydi gwacter - dani'n s么n am argyfwng gwacter ystyr ac yn meddwl am yr ofn, yr unigrwydd, y dryswch a'r tywyllwch sydd ynghlwm wrth y gair a'r syniad - peth i'w osgoi ar bob cyfrif ydi o a dani'n dueddol i lenwi pob munud awr efo rhyw s诺n neu brysurdeb er mwyn ei gau o allan - pan fedrwn ni.

Munudau olaf

Mae hi'n Ddydd Gwener y Groglith - a dani'n cofio Iesu yn ei funudau olaf ar y Groes yn teimlo'r gwacter eithaf fod Duw wedi ei adael - Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist? - a does dim ateb i deimlad fel'na, nagoes?

Ond bedd gwag ydi sail ein ffydd ni - a chofiwn hefyd am ddaear afluniaidd a gwag y creu - pan oedd ysbryd Duw'n hofran dros y cyfan ac yn galw am oleuni.

Does dim ateb i'r teimlad o wacter - na geiriau i'w fynegi - ond does dim, chwaith eglurhad i'r nerth a'r cysur sydd i'w ganfod, weithiau, yn ei ganol o.

Chydig wythnosau n么l roedd ein sgriniau teledu a'n sylw wedi ei hoelio ar yr argyfwng dychrynllyd yn Haiti - a dani i gyd yn cofio'r hen wraig yn cael ei thynnu o'r rwbel ac yn canu emynau.

dweud diolch

Mi ddarllenais i gyfweliad efo un g诺r oedd wedi colli ei gartref a rhai o'i anwyliaid yn y chwalfa - ei ferch wedi colli ei choes - y cwestiwn olaf ofynnwyd iddo oedd, "Be wyt ti'n ddweud wrth Dduw r诺an, ta?"

A'i ateb? Merci - Diolch.

Fore Sul, mi fyddwn yn bwyta wyau siocled gwag ond, er gwaetha'u gwacter, mi fydda nhw'n dal yn felys!
Pasg hapus ichi i gyd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.