Cae i'r plant
Mae cael lle ac amser i chwarae yn bwysig i blant ac oedolion.
Braf, felly, oedd clywed am haelioni ffermwr lleol o'r enw Robin Gruffydd yn rhoi hanner acer o dir ei fferm i Ysgol Felinwnda ger Caernarfon.
Er 1894, pan sefydlwyd yr ysgol ar y safle, mae pob gêm bêl-droed neu ddiwrnod mabolgampau wedi bod yn y pentref nesa, Saron, ac ar amser chwarae 'roedd y plant yn gorfod aros ar fuarth yr ysgol.
"Mae'n bur debyg ein bod wedi aros am dros gan mlynedd," meddai Carys Thomas, pennaeth yr ysgol. "Bydd yn wych o ran datblygiad y plant yn gorfforol ac adnoddau eraill fel gardd."
Cae pêl-droed
Os diolch sydd yn Llanwnda am haelioni un dyn yn rhoi cae, pryderon sydd yn hen dref Caernarfon am gefnogaeth i gae chwarae hanesyddol yr Oval.
Mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb personol gan i mi gael fy ngeni a'm magu rhyw gan llath oddi gae clwb pêl-droed Caernarfon sydd wedi ei chael yn anodd yn ddiweddar ar ac oddi ar y cae.
Maen nhw wedi mynd i ddyledion a wynebu dirwyon gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru.
Ychydig wythnosau'n ôl edrychai pethau'n ddu iawn nes daeth criw o gefnogwyr at ei gilydd i geisio achub y clwb.
Meddai Arfon Jones, y cadeirydd newydd: "Rydan ni'n ail adeiladu efo criw o chwaraewyr lleol - dyna oedd bobl dre 'isio."
Dibynnu ar ewyllys da
Hyd yma bu'r gefnogaeth yn dda iawn a rheolwyr y clwb yn dweud eu bod nhw yn mynd i fod yn dibynnu ar ewyllys da'r chwaraewyr a phobl y dref am beth amser.
Wrth ystyried dau gae chwarae gwahanol eu natur braf clywed am haelioni ac ewyllys da yn gwneud gwahaniaeth.
Efallai fod mwy o gyfle ar gael nag â sylweddolwn weithiau i newid ein sefyllfa leol drwy sicrhau fod yna le i chwarae a chefnogi ein gilydd