Pa ffordd well i gychwyn diwrnod Sant Padrig na sôn am gysylltiad newydd rhwng Cymru ac Iwerddon?
Mae'r gwaith paratoi wedi dechrau yn Y Fflint lle maent yn agor y tir i osod pibellau a fydd cyn bo hir yn cario gwifrau trydan tanddaearol.
Ni fydd yr holl brosiect wedi' gwblhau tan ganol 2012 pryd y gwelir gwifrau yn rhedeg tan y môr o Brestatyn ar arfordir y Gogledd i Iwerddon - rhyw 160 o filltiroedd ar eu hyd.
Cyfnewid pŵer
Pwrpas yr holl waith yw sicrhau fod cyfle i'r naill wlad gyfnewid pŵer a'r llall mewn cyfnodau o angen ac argyfwng.
Mae digon o nerth yn y gwifrau i gario 500 megawat - hynny yw, digon i gadw 300,000 o dai mewn trydan.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi £100m tuag at yr holl gost sydd ar hyn o bryd yn £540m.
'Rwy'n siŵr y bydd rhywun yn beirniadu y fath wario mewn cyfnod o gyni ond rhaid cofio mai cyswllt fydd yn para am amser maith fydd y gwaith hwn.
Dipyn o fynd a dŵad
Da cofio bod yna dipyn o fynd a dŵad wedi bod rhwng Cymru ag Iwerddon ers cyn dyddiau'r Mabinogi.
Ar y diwrnod hwn gweddus cofio mai Padrig ei hun oedd un o'r rhai mwyaf pwerus ei ddylanwad a gafodd ei allforio o Gymru.
Yn ddigon naturiol mae ambell i gêm ryngwladol yn medru creu tyndra am gyfnod ond diolchwn fod perthynas y ddwy genedl yn un wresog a chyfeillgar.
Ysgwn i be fuasai'r hen saint yn ei wneud o'r newyddion fod modd trosglwyddo pŵer y ddwy wlad o dan y môr a'i donnau? Yn sicr y byddant yn croesawu y llif o gymorth o un i'r llall.
Yn croesawu
Mae sefydlu pob cysylltiad newydd yn gofyn am ymdrech a chost ac efallai wrth groesawu'r datblygiad fod lle i feddwl am y berthynas rhyngom a'n gilydd.
Buasai Sant Padrig yn siŵr o groesawu unrhyw ymdrech newydd i sefydlu cyswllt gwresog a phwerus â'n cymdogion.