麻豆社

'Am eu crogi'

Cwlwm crogi

gan Lona Roberts
Bore Gwener Mawrth 12 2010

Pa olygfa ddewisaf i egluro ichi beth sydd gyda fi?
Mae cymaint ohonyn nhw.
Beth am hon, te?

Dyma fe, Atticus Finch, cyfreithiwr lleol yn Alabama, yn y ffilm,To Kill a Mockingbird. Roedd e wedi cytuno i amddiffyn dyn du, Tom Robinson, a gyhuddwyd o dreisio merch wen.

Chi'n cofio'r dorf gynddeiriog yn cyrraedd, yn udo am waed y dyn du ac Atticus Finch wyneb yn eu wyneb 芒 nhw, y lynch mob?

Yr unig beth achubodd y sefyllfa rhag gwaethygu oedd holi diniwed Scout, merch fach chwech oed y cyfreithiwr, a adnabu dad un o'i ffrindiau yn y dorf.

Sut oedd ei ffrind, holodd - a chais wedyn i'r tad ei chofio ato.

Dim lle i drafod

Un enghraifft ymysg degau ar y sgrin am lynch mob yn mynd ati. Y cyhoedd cynddeiriog yn gweinyddu cyfiawnder gyda'r fath deimladau cryfion fel nad oes lle i drafod nac ystyried na chynnig barn arall.

Brawychus o beth yw ei weld ar waith nawr, heddi, yn achos y dyn ifanc yna sy'n euog o lofruddio plentyn bach pan oedd yntau ond yn ddeg oed.

Gweithred ysgeler, erchyll sydd, yn 么l rhai, yn cyfiawnhau casglu lynch mob o bob carfan o gymdeithas i'w hela

Setlo'r mater?

Pe baem ni'n cael gafael arno a'i drin yn 么l ei haeddiant, fyddai hynny'n setlo'r mater? Fyddai 'na dawelwch meddwl i'r rhai hynny sydd wedi dioddef yn ingol?

A pheth arall i chi, ai gwastraff llwyr fu'r holl wariant arno dros y blynyddoedd?

Y pris

Mae cadw un fel ef dan glo yn costio 拢140,000 y flwyddyn. Y mis diwethaf, roedd 2,195 o blant rhwng 10 ac 17 oed dan glo yng Nghymru a Lloegr.

拢140,000. Chwe gwaith mwy na phris anfon plentyn i ysgol fonedd Eton. Pwy sy'n gwerthuso hwnna?

Arf llym, creulon yw lynch mob a ddylai frawychu unrhyw gymdeithas w芒r.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.