Olion grym
Sori, ond dwi'n dechre heddiw trwy sôn am rygbi a falle'ch bod chi fel fi wedi cael llond bol ar y trafod diddiwedd ar y gêm honno fel tase hi'r peth pwysica mewn bod.
Ishio tynnu'ch sylw chi ydw i at y nerth a'r grym a'r pŵer anhygoel sydd i'w weld yn y sgrymie mewn rygbi erbyn hyn.
Nerth, grym, pŵer, yr un peth yn y bôn ag a welwyd yn Chile a Haiti pan drawodd y daeargrynfeydd.
Yr un peth ag sydd i'w weld pan fydd y gwynt yn chwipio'r tonne ac yn ysgwyd y coed i'w gwraidd.
Gweld yr effaith
Dwi'n anghywir. Gweld, medde fi. Ond dech chi ddim yn gweld grym, gweld a theimlo'i effaith o dech chi.
Allwch chi ddim gweld trydan ond mi allwch chi weld y peiriant yn troi a'r bwlb yn goleuo.
Anodd ydi profi bod grym yn bod heb weld a theimlo ei effaith. Yr effaith ydi'r prawf ei fod o'n bod.
Y dyddie yma mae ne lawer yn ymosod ar y syniad o Dduw ac ar yr efengyl am na fedrwch chi, medden nhw, brofi'n wyddonol eu bodolaeth.
Rhai enghreifftiau
Cystal inni felly atgoffa'n hunen o enghreifftie lle mae efengyl a chred yn Nuw yn dangos eu grym. Dim ond eu crybwyll alla mewn cwta funud.
- Dene i chi y grym achubol yr yden ni wedi ei weld yn newid bywyde pobol, y bobol gafodd dröedigaeth. Nid pawb wrth gwrs sy wedi cael profiad o'r grym yma.
- Grym ataliol wedyn, grym sy wedi'n stopio ni rhag gneud rhai pethe, wedi'n cadw ni ar y llwybr cul i ddefnyddio hen idiom. Mi glywsom ni bobol lawer gwaith yn tystio i'r grym yma yn eu bywyde.
- Grym cynhaliol. Sawl gwaith y clywson ni rai gafodd brofedigaethau mawr yn deud i'r efengyl eu cynnal?
- Grym cymdeithasol, y glud sy'n cadw cymdeithas rhag chwalu, yn ein cydio yn ein gilydd, un ai yden ni yn arddel y grym hwnnw ai peidio.
- Ac yn ola y grym cenhadol. Pwysicach heddiw nag erioed. Nid cenhadu fel erstalwm, nid mynd â newyddion da yr efengyl i bellafoedd byd, ond mynd â chysur a chynhaliaeth i bobol mewn angen.
Ac mi welson ni'r grym yma ar ei ore yn yr ymateb i'r argyfwng dychrynllyd yn Haiti.
Peidiwn â dibrisio na diystyru grym yr efengyl. Di'r ffaith na allwn ei weld ddim yn deud nad ydio'n bod. Mae ei effaith o i'w weld ym mhobman.