Â鶹Éç

Blas ar fywyd

Cyri gorgimwch

gan Beti-Wyn James
Bore Llun, Chwefror 22, 2010

Ras y cyrris gorau

Cyhoeddwyd enwau'r ugain bwyty Indiaidd fydd yn brwydro am deitl TÅ· Bwyta Cyri'r Flwyddyn 2010 yr wythnos diwethaf.

Yn ôl yr adroddiad, roedd 200 o dai bwyta Indiadd Cymru wedi derbyn pleidlais gan y cyhoedd. "Bu'r ymateb gan y cyhoedd yn anhygoel," meddai un o drefnwyr y gystadleuaeth.

Y cam nesaf yn y gystadleuaeth fydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r beirniaid rhanbarthol ymweld â'r ugain bwyty - nid i gyd yr un wythnos gobeithio!! - gan flasu'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig.

Un datblygiad newydd eleni yw gofyn i'r ugain bwyty gynnwys cennin mewn cyrri ar eu bwydlenni.

Rydw i yn hoff iawn o ambell gyrri, ond nid yn ofnadwy o fentrus mae arnai ofn! Person Korma ydw i gan adael y Vindalooos i'r bobol ddewr!

Bydd yn ddiddorol iawn blasu pryd bwyd Indiaidd â chennin ynddo

Cawl cennin

Ychwanegu cennin er mwyn rhoi blas ar fwyd a wnawn fel arfer. Mae'n siŵr gen i y bydd 'na Gawl Cennin yn berwi mewn sawl cegin yng Nghymru dros y penwythnos nesaf wrth inni baratoi i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant, Dewi.

Ystyrir Cawl Cennin yn bryd bwyd traddodiadol y Cymru a gellir olrhain y gair 'cawl' yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg!

Er bod gwahanol fathau o gawl, eto, ni ellir, yn fy marn i, ragori ar fased berw o gawl cennin, gyda thafell o fara a darn o gaws yn gwmni iddo.

Ie, da yw cael blas ar fwyd, pa fwyd bynnag yw e, ac o ba gyfandir bynnag y daw.

Ond nid bwyd yw'r unig beth y mae arnom angen blas arno. Mae cael blas ar fyw, a chael blas ar fywyd yr un mor bwysig.

Mae na ddigon o bethau yn diflasu bywyd ac yng nghanol y pethau di-flas mae gofyn inni chwilio am y pethau hynny sy'n rhoi blas.

Gweithredoedd da

Mae pob gweithred o ddaioni a phob arwydd o gariad yn rhoi blas ar fywyd.

I'r rhai ohonom sy'n agos at Iesu fe gredwn y gallwn drwy ffydd, ysbrydolrwydd, daioni, llawenydd a chariad gael blas arbennig ar fywyd.

Tydi a wnaeth y wyrth o Grist Fab Duw,
Tydi a rhoddaist inni flas ar fyw...


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.