Â鶹Éç

Hawliau

Nelson Mandela

gan Branwen Niclas
Bore Gwener, Chwefror 12 2010

Ddoe mi welsom ni ddarluniau dathlu yn Ne Affrica, a choffau ugain mlwyddiant rhyddhau Mandela o'r carchar.

Un peth wnaeth Mandela wrth ddod yn rhydd oedd cydnabod gwaith cymunedau a grwpiau ar draws y byd yn yr ymgyrch yn erbyn apartheid a mynd ar daith i ddiolch i gymunedau oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch i chwalu'r drefn.

Ymlyniad

Mae Ymlyniad / Unoliaeth yn beth grymus iawn ac mae grwpiau cefnogi gwahanol achosion yn gallu newid barn, newid deddfau a newid hanes.

Dwi wedi dod ar draws nifer o enghreifftiau yn fy ngwaith ac yn fy mywyd bob dydd dros y mis diwethaf o bobl dan amgylchiadau anodd yn cael eu cynnal gan gefnogaeth eraill. Dyna sy'n rhoi gobaith a nerth.

Erbyn nos Lun nesa, os byw ac iach, mi fyddai wedi bod mewn pedwar cyngerdd i godi arian at Apêl Argyfwng Haiti Cymorth Cristnogol.

Pobl wedi dod at ei gilydd, i drefnu digwyddiadau i roi o'u hamser, eu doniau a'u hegni i wneud gwahaniaeth. Diolch am yr ymlyniad.

Erlid hoywon

Ychydig ddyddiau sydd ar ôl i wrthwynebu mesur llywodraeth Uganda i griminaleiddio pobl hoyw. Petai'n troi'n ddeddf, gellid dedfrydu pobl hoyw i farwolaeth a charcharu pobl am beidio dweud wrth yr awdurdodau am weithgareddau hoyw.

Mae Gideon Byamugish yn ganon gyda'r Eglwys Anglicanaidd yn Uganda. Ef oedd yr arweinydd eglwysig cyntaf yn Affrica i ddatgan yn agored ei fod yn HIV+ a'r llynedd anrhydeddwyd ef â Gwobr Heddwch Niwano.

'Yn hil laddiad'

Mae'n annog pawb i wrthwynebu'r mesur hwn. Cred y byddai'r mesur yn hil-laddiad yn erbyn un o gymunedau Uganda ac y byddai'r mesur yn arwain at drais ac anoddefgarwch drwy bob carfan o gymdeithas.

Gwêl ei ddyletswydd i siarad allan yn erbyn rhagfarn, homoffobia, gwahaniaethau ar sail rhyw, Piwritaniaeth, ffwndamentaliaeth, ac unrhyw beth arall sy'n lleihau ein cariad, ein gofal a'n cefnogaeth i'n gilydd wrth deithio ar daith bywyd. Mae'n ein hannog ni i wneud yr un peth. Dyna unoliaeth.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.