Pennau bach sy'n mesur eraill oddi wrth grŵp mewn gwleidyddiaeth. Mae'n gamgymeriad mawr.
Union wythnos yn ôl roeddwn mewn trên ar y ffordd i Dŷ'r Cyffredin yn Llundain. Mae'n debyg taw rhoi tystiolaeth ar berthynas San Steffan a'r Cynulliad fyddai fy ngwaith olaf ar ran Confensiwn Cymru Gyfan.
Fel arfer, roedd yn braf mwynhau cwmni a meddwl anhygoel Syr Emyr Jones Parry.
Greddfol anghytuno
Roeddwn hefyd yn edrych ymlaen at weld Ceidwadwr y bûm yn gweithio'n arbennig o agos gydag o ar y Confensiwn, Paul Valerio.
Gadewch imi fod yn onest. Dwi wedi treulio bywyd cyfan yn reddfol anghytuno â sawl peth o eiddo'r Ceidwadwyr, ond fe drodd y Confensiwn, mewn modd cwbl ryfeddol, yn grŵp o gyfeillion wrth drafod y dadleuol gyda'r gwahanol.
Mewn amser gwirioneddol wael i wleidyddiaeth, fe adferodd fy ffydd yn egwyddorion hen ffasiwn, ond da, gwasanaeth cyhoeddus.
Fe aeth un ar bymtheg o bobl wahanol yn ddi-dâl i gyflawni gorchwyl ar ran y cyhoedd.
Dysgu llawer
Wrth dderbyn tystiolaeth o bob rhan o Gymru fe wnes i hefyd ddysgu llawer mwy am fy ngwlad fy hun.
Roedd gweithio â thîm y staff yn bleser ac yn fwyaf oll, fe wnes i ffrindiau newydd - ond ffrindiau gwahanol.
Byddai rhai yn trin aelodau seneddol fel grŵp unlliw ac yn arbennig y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Mae Aelodau'r Cynulliad yn grŵp arall meddai eraill. Nid felly'r gwirionedd.
Ta waeth, cawsom ein holi am awr a hanner ond fe aeth y cyfan heibio'n rhwydd.
Tu draw i'r ystrydeb
Ymysg llu o bethau, awgrymwyd y dylem fod wedi cynnwys diagram ar sut mae Mesur Seneddol yn gweithio. Cafwyd parodrwydd ar ein rhan ninnau y gallai ambell beth - dim byd mawr - fod wedi cael ei fynegi'n fwy eglur.
Yn fwy na dim yn y Pwyllgor Dethol, gwelodd pobl o argyhoeddiad yn dda i weld tu hwnt i'r ystrydeb a chanfod modd i gytuno ar sut i anghytuno ac i geisio argyhoeddi.
Fe wnes addewid na fyddwn yn dweud unrhyw beth pellach ynghylch cynnal refferendwm cyn i'n gwleidyddion gynnig penderfyniad ond, dwi am fod yn ofalus.
Meddwl wnes i taw'r buddugwyr mewn unrhyw refferendwm fydd y rhai sy'n gweld unigolion fel rhywbeth amgenach nag ystrydebau mewn grŵp.
Y ddawn i'r naill ochr neu'r llall fydd argyhoeddi'r gwahanol. Amser a ddengys.