Yn gariad i gyd
Dydd Gŵyl Santes Dwynwen hapus i bob un ohonoch.
Faint ohonoch chi sy'n mwynhau brecwast yn y gwely bore yma. Yn edrych ar ddeuddeg o rosod coch efallai neu yn agor cerdyn a neges neu gerdd gariadus ynddo.
Does yna fawr o ddathlu ar yr ŵyl yn ein tŷ ni, rhyw esgus tila fel mai dim ond sgam farchnata yw'r ŵyl, a'r un esgus fydd yn cael ei ddefnyddio ddydd San Ffolant o fewn cwta dair wythnos.
Fe fydd ein mab ieuengaf, Obed, yn dathlu'r ŵyl yn yr Ysgol heddiw, bydd cyfle i bob disgybl ddod i'r ysgol wedi gwisgo mewn coch ac fe fydd cacennau yn cael eu gwerthu, y cyfan er mwy gwneud ymgais gariadus o gasglu arian tuag at drueiniaid Haiti.
Hanes Dwynwen
Dwn i ddim faint ohonom ni sy'n gwybod hanes Dwynwen chwaith.
Merch i frenin Brychan Brycheiniog oedd hi a'i thad am iddi briodi Tywysog pwysig.
Ond roedd Dwynwen mewn cariad a thywysog arall o'r enw Maelon Dafodrill.
Gwrthododd ei thad wrando arni, a mynnodd mai Brychan yr oedd am briodi. Pan dorrodd Dwynwen y newydd drwg i Maelon gwylltiodd hwnnw'n gacwn gyda hi. Torrodd Dwynwen druan ei chalon a ffodd i'r goedwig i fyw bywyd diflas ac unig.
Yno daeth angel ati a rhoi tri dymuniad iddi, sef dadmer Maelon a oedd erbyn hyn wedi troi yn dalp o rew, gwarchod dros holl gariadon Cymru ac, yn olaf, nad oedd hi i briodi Brychan.
A dyna pam yr ydym ni yn dathlu gŵyl Santes Dwynwen ar Ionawr 25 bob blwyddyn.
Swnio'n debyg i opera sebon fodern yn tydi!
Cariad yw . . .
Ond be ydy gwir gariad? Rhywbeth sy'n para'n hirach na diwrnod, yn hirach na bywyd y rhosus cochion.
Mae cariad go iawn yn amyneddgar.
Mae cariad yn garedig.
Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun.
Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg.
Dydy o ddim yn digio a phwdu ac mae'n fodlon anghofio pan fo rhywun wedi gwneud cam.
Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni - beth sy'n ei wneud e'n hapus ydy'r gwir.
Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu, bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.
Fydd cariad byth yn chwalu.
Waw! Pwy ydy'r carwr yna? Ydio'n sengl?
Duw ydi o ac o ydi, mae o'n gariad i gyd.