Â鶹Éç

Materion teuluol

Huw Tegid

gan Huw Tegid
Bore Iau, Ionawr 21 2010

Teuluoedd yn allwedd

Yn ddiweddar, mae gwleidyddion yma ym Mhrydain wedi bod yn hogi ychydig ar eu harfau cyn yr etholiad cyffredinol, sy'n debygol o gael ei chynnal rhyw dro cyn yr haf eleni.

Bu'r blaid Lafur a'r Torïaid yn amlinellu'r hyn y bydden nhw'n ei wneud i helpu teuluoedd pe baen nhw mewn grym ar ôl yr etholiad.

Mae'r naill blaid a'r llall yn gweld teuluoedd fel rhan allweddol o gymdeithas ac yn meddwl y bydd helpu teuluoedd yn helpu sefydlogrwydd y gymdeithas honno yn ystod ail ddegawd y mileniwm newydd.

Fel un a fydd, os Duw a'i myn, yn dad tuag adeg yr etholiad cyffredinol, mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud, ond rhywle yng nghefn fy meddwl i mae 'na gloch fach yn canu.

Mae'r gloch fach honno fel petai hi'n seinio enw Margaret Hilda Thatcher, ac yn fy atgoffa am ei honiad enwog nad oes y fath beth â chymdeithas.

Gwaetha'r modd, wnaeth yr un o'i holynwyr yn y Blaid Geidwadol na'r Blaid Lafur rhyw lawer i'n perswadio ni eu bod nhw'n anghytuno â hi, chwaith.

Dim Duw?

Yn fwy diweddar na datganiad Mrs Thatcher, roedd slogan enwog arall i'w gweld ar fysiau rhai o ddinasoedd Prydain, a oedd yn datgan ei bod hi'n debygol nad oedd Duw yn bod, ac y dylem roi'r gorau i boeni am hynny a bwrw ymlaen â'n bywydau.

Yn bersonol, alla i ddim cytuno â'r naill slogan na'r llall, ond rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs.

Yr hyn y galla i ei awgrymu, er hynny, ydi bod y byd o'n cwmpas ni'n tueddu i anghytuno â'r naill slogan a'r llall, hefyd - a hynny yn Haiti o bob man. Ie, Haiti - y wlad lle gallai'r trigolion yn hawdd iawn ddadlau nad oes Duw na chymdeithas erbyn hyn.

Ond ar wefan y Â鶹Éç neithiwr, mi welais i ddynes, yng nghanol yr adfeilion, ar fin esgor ar blentyn. O'i chwmpas hi roedd pobl oedd wedi colli popeth o'u heiddo materol, ond a oedd eto yn ofalus iawn ohoni, ac a drefnodd ei bod hi'n cael cymorth meddygol.

Ganwyd baban iach iddi, a'r gobaith ydi y bydd y baban hwnnw'n goroesi'r cyfnod digalon hwn yn hanes Haiti.

Heb Dduw na chymdeithas

Yn yr enedigaeth honno, ac yn y daeargryn hefyd, gwaetha'r modd, mi welson ni fod Duw wedi creu byd sy'n newid yn gyson. Mi allwch chi gredu hynny neu wrthod hynny, fel y gwelwch chi orau. Yn yr un modd, mi allwch chi gredu neu wrthod y syniad o gymdeithas, hefyd.

Ond y cwestiwn yr hoffwn i chi feddwl amdano'r bore 'ma ydi hwn - os nad ydach chi'n credu mewn cymdeithas na Duw, lle mae hynny yn eich gadael chi pan fyddwch chi angen rhywbeth?

Yn ogystal, ydi hi'n iawn bod yn oriog ynghylch eich daliadau?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.