麻豆社

Y Samariaid

Teleffonau

Bore Mawrth Ionawr 20 2010
gan Aled Lewis Evans

Diolch am y gwrandawyr

Mis Ionawr yw un o'r cyfnodau prysuraf i'n llinellau cymorth. Problemau ariannol, problemau emosiynol - maen nhw rywsut yn hel fel broc m么r ar draeth Ionawr.

Rydan ni'n fregus iawn, ac mor galonogol yw clywed am glust i'n problemau. Rhywun sy'n fodlon gweld yr un olygfa o'r ffos.

Amser i wrando

Mae gan fudiad y Samariaid ers 1953, gyda'i rif ff么n enwog 0345 90 90 90, amser i wrando a sgwrsio efo pobl.

Maent yno yn wastadol yn delio'n gyfrinachol efo'n cyfyngderau.

Ei arwyddair yw; "Beth bynnag rydych yn mynd drwyddo, fe awn ni drwyddo gyda chi." Dyna falm i glust ac enaid mewn byd mor chwim a phenchwiban.

Yn ddyletswydd

Roeddwn i'n siarad yn ddiweddar efo gwraig o gefn gwlad sy'n helpu yng Nghanolfan y Samariaid yn Y Rhyl i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Roedd hi'n gweld dyletswydd i fod yno ar gyfer pobl, ac roeddwn i'n meddwl fod hynny yn beth amheuthun iawn a'i didwylledd yn arbennig.

Mae tuedd ynom ni wrth gwrs i fedru bwrw'n bol yn well wrth ddieithryn ambell dro ac fe ddiolchwn y bore 'ma am yr holl wrandawyr, cynghorwyr a chwnselwyr fydd heddiw yn gwrando, ac yn lleddfu dynol loes.

Mae un nodwedd o ddarpariaeth y Samariaid yn drawiadol - maent yn fodlon gwrando am ba hyd bynnag ydych chi ar y ff么n.

Un arall

Roedd hyn yn f'atgoffa o ddarlun yn un o gerddi R. S Thomas o'r Un Arall Hwnnw sydd yno'n wastadol, yn gadael i'n gwedd茂au a'n deisyfiadau dorri arno, nid am ychydig funudau, ond yn dragywydd.

Rydan ninnau yn aml yn anghofio am ei bresenoldeb, ond y mae O'n dal i wrando.

Unrhyw amser, unrhyw hyd - fel y Samariaid.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.