Cofio'n cymdogion - ym mhobman
Cawsom ychydig o newid ym mhenawdau'r newyddion ddoe wrth i'r newydd am y daeargryn yn Haiti dynnu ein sylw am ychydig oddi ar y cawodydd eira yma yng Nghymru.
Wrth i'r diwrnod ddatblygu, clywsom fod rhai cannoedd, os nad miloedd, o bobl wedi marw wrth i'r daeargryn ysgwyd y brifddinas, Port-au-Prince, a'r pentrefi cyfagos.
Cyfeiriodd sawl gohebydd at y ffaith mai Haiti ydi gwlad dlotaf y byd gorllewinol, a bod y tlodi hwnnw yn un ffactor allweddol a arweiniodd at gyfanswm mor syfrdanol o farwolaethau.
Tywod a chraig
Gyda'u henillion prin, roedd y trigolion wedi codi tai na fyddai'n cyrraedd unman yn agos at ein safonau pensaernïol ni yng ngweddill y byd gorllewinol.
Mae 'na ddameg yn y Beibl sy'n sôn am dŷ ar y tywod a thŷ ar graig ac yn cyfeirio at ffawd wahanol iawn y ddau dŷ pan ddaeth storm i ysgwyd eu sylfeini.
Mae nifer o dai Haiti heddiw yn ddigon tebyg i'r tÅ· hwnnw ar y tywod.
Mae 'na ddameg arall yn y Beibl sy'n dechrau gyda'r cwestiwn:
"A phwy ydi fy nghymydog?"
Ysbryd 'Blitz'
Dywedir fod y cawodydd eira a'r rhew a gawsom yn ddiweddar yma ym Mhrydain wedi deffro 'ysbryd y Blitz' ym mhobl Prydain, a'n bod ni wedi ymdrechu'n galetach nag arfer i helpu pobl yn ein cymunedau lleol.
Yr hyn yr hoffwn inni ei ystyried heddiw yn ein tai diogel ydi, nid yn unig 'pwy ydi fy nghymydog?' ond 'pa mor lleol ydi fy nghymydog?'
Ydi gwlad dlotaf ein byd gorllewinol yn rhan o'ch cymdogaeth chi?