Â鶹Éç

Paratoi ar gyfer y Nadolig

gan J Towyn Jones Bore Mawrth Rhagfyr 22, 2009

Paratoi? Mam annwyl - onid oes 'na gymaint o baratoi.

Mae na nifer o bethe sy'n rhan o'r paratoi. Anfon cardie yn un peth. Rwy bron credu fod syniad go lew gan rhen Gilbert Harding yn ychwanegu ei enw ei hunan ar bob cerdyn roedd e'n dderbyn a'i anfon ymlaen.

Oddi wrth hwn a hwn a Towyn Jones! Os anfonwch chi nhw'n rhy gynnar mae fel petai chi'n disgwyl rhai nôl, - rhy ddiweddar ac mae mwy o ymateb mewn panig, nag ewyllys da ynglŷn â'r peth.

Mor sinigaidd a ni

Gobeithio nad aiff ein plant ni mor sinigaidd â ni. Un bachgen bach yn sgrifennu ar ôl cael gwers yn pwysleisio fod y Nadolig ynglŷn â RHOI nid dim ond DERBYN: "AnnwylSanta, Fe wna i shario fy nheganau i gyd. Plîs a alla'i gael LOT i shario."

Ac un arall wedi clywed athrawes yn sôn nad oedd dim lle yn y llety: "Plîs Miss, rwy'n beio Joseff, ddyle fe fod wedi bwco."

Ond yr orau i mi o enau plant oedd y weddi honno gan ferch fach a nodwyd gan Samuel Butler - maddeuwch ei bod yn Saesneg ond ni ellir mo'i chyfieithu:

"Forgive us our Christmases as we forgive them that Christmas against us."

Pwysigrwydd paratoi

A chyda hynna ry' chi'n dod at baratoi o ddifri. Fe ruthrodd y Dr Samuel Johnson allan o oedfa unwaith pan sylweddolodd fod y Cymun i'w weinyddu ac yntau, meddai wrth ei gydymaith Boswell, ddim wedi ei baratoi ei hun.

Pan ddaeth Wyn Gruffydd, y sylwebydd chwaraeon praff i'n hannerch ni yn Heol Awst yn gynharach eleni fe esboniodd mai ei reol euraidd yw: "Os methwch chi baratoi - paratwoch i fethu" a dyna, yn syml, gyfrinach ei lwyddiant yn ei faes.

Mae'n paratoi ni yn dirwyn i ben a bore ddydd Gwener am chwech fe fydd y Plygain yn Heol Awst, Caerfyrddin - y rhan cyntaf ohono wrth olau cannwyll a Pharti Bechgyn yn seinio Veni Immanuel o dywyllwch yr oriel a thelyn a fiola a ffliwt yn ymuno mewn awyrgylch wefreiddiol.

Bydd dydd Nadolig wedi dod.

Mewn gogoniant

Adfent yw'r hyn sy'n cyfateb mewn termau crefyddol i'r neges seciwlar nad oes ond pedwar ar hugain o ddyddiau siopa cyn Nadolig.

Hwyrach ein bod ni'n barod ar gyfer Gŵyl y Baban ond mae'r Adfent yn cynnwys ei ddyfodiad mewn Gogoniant. Pa mor barod ydym ni? Wedi'r cyfan 'doedden ni ddim yn barod am dipyn o eira!. Nadolig Llawen.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.