麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Gwefr diwygiad

Pwyso a mesur 04-05 a meddwl am heddiw

Dydd Iau, Rhagfyr 19, 2002

Diwygiad 04-05 gan Eifion Jones. Gwasg Bryntirion. 拢3.95.
Pedair seren

Dydi rhywun ddim yn clywed y peth gymaint 芒 hynny y dyddiau hyn ond yr oedd yna, rai blynyddoedd yn 么l fynegi barn mai "Diwygiad arall fyddai'n dod 芒'r wlad yma yn 么l i drefn."

Ai arwydd o faint y dirywiad mewn safonau a moesau cymdeithasol yw'r ffaith nad yw hynny'n cael ei ddweud gymaint y dyddiau hyn?

Fod pobl o'r farn fod pethau wedi mynd yn rhy bell ac nad oes ateb . . .

Ynteu arwydd yw na chredant mai gan Gristnogaeth mae'r ateb?

Diau y byddai awdur y llyfryn bach hwn - gan wasg a oedd yn cael ei hadnabod tan rai blynyddoedd yn 么l fel Gwasg Efengylaidd Cymru - yn anghydweld gan ddadlau y daw gwaredigaeth os dyna yw ewyllys Duw.

Cario pobol

Efallai fod y syniad o ddiwygiad crefyddol gyda rhyw angerdd crefyddol yn sgubo a thwymo'r wlad yn rhywbeth digon estron heddiw.

Ond ddylai o ddim bod gan i ninnau weld mwy nag un enghraifft - hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diweddar - o'r elfennau hynny oedd yn bresennol mewn diwygiad crefyddol yn cael eu hamlygu a phobl yn cael eu cario gan rhyw angerdd teimladol.

Tebyg mai'r enghraifft amlycaf oedd yr ymateb cyhoeddus i farwolaeth y Dywysoges Diana gyda rhai pobl yn darogan yng nghanol gwres yr ymateb hwnnw ein bod ar drothwy trobwynt yn ein hanes.

Ond os oeddem ar groesffordd o gwbl, go brin inni gymryd y ffordd gywir. Dychwelyd at ei hen hunanoldeb a wnaeth cymdeithas wedi'r gwewyr munud awr.

Yn hanes Cristnogaeth, gellid dadlau mai'r un peth a ddigwyddodd yn dilyn ymchwydd diwygiad enwog 04-05.

Teimlo'r effaith

Ond y mae awdur y gyfrol hon yn dadlau, hyd yn oed cyn waethed ag yw cyflwr crefyddol Cymru heddiw, y byddai'n waeth heb yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y ddwy flynedd ryfeddol yma.

"Nid dweud gormod yw honni na fyddai Cymru'r ugeinfed ganrif yr un pe na byddai ddiwygiad yn 1904. Byddai gwacter mewn crefydd a'r dirywiad moesol a chymdeithasol a'n daliodd y blynyddau diwethaf wedi 'u hamlygu eu hunain dipyn cynt hebddo," meddai.

Yn Gristion neu beidio y mae'r syniad o Ddiwygiad yn yr ystyr gynnwrf crefyddol yn un eithriadol o ddiddorol ac ni ellir ond rhyfeddu at rai o'r straeon a adroddir yn y gyfrol hon wrth i'r Dr Eifion Evans geisio "gosod Diwygiad 1904-05 mewn cyd-destun beiblaidd."

Safbwynt efengylaidd

Yn 'arbenigwr' yn y maes ac yn awdur nifer o lyfrau ar y pwnc, y mae gan Eifion Evans ei safbwynt Cristnogol pendant ei hun ac o'r safbwynt efengylaidd hwnnw y mae'n sgrifennu. Nid oes dim o'i le yn hynny.

Mae'n cychwyn trwy ddarlunio'r cyfnod a'r dyheadau a ragflaenai'r Diwygiad ei hun.

"Efallai mai pinacl y dyhead am adfywiad oedd geiriau David Howell, Deon Tyddewi. Ychydig cyn ei farw yn Ionawr 1903, addefodd mai angen pennaf Cymru oedd adfywiad ysbrydol a fyddai yn 'gorlifo yr holl wlad'," meddai wedi tynnu sylw at gyflwr cymdeithasol y wlad ar y pryd gyda'i thlodi a'i meddwdod a'i gorthrwm a'i rhagrith Victoraidd.

Ac yn yr eglwysi collwyd, meddai, yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg sawl cynulleidfa "trwy gynnig rhyw fath o gandi fflos yn lle maeth gwirionedd Duw" wrth i bregethwyr ganolbwyntio ar berfformiad yn hytrach na chynnwys.

Enghreifftiau rhyfeddol

Dan y fath amgylchiadau dim rhyfedd fod pobl yn hiraethu am 'well' ac fe gafwyd hynny yng ngwres y Diwygiad.

Disgrifir y Cardigan Pleasure Fair yn cael ei throi yn Gyfarfod Diwygiad:
"Wrth i Maud Davies ganu'r pennill, Marchog Iesu yn llwyddiannus, holltodd y ffair yn ddwy".

Yng Nghaerfyrddin, gorymdeithiodd pobl drwy'r strydoedd yn canu a moli.

Meddiannwyd Bethesda, Arfon, gan "hurricane yr Ysbryd Gl芒n".

"O F么n i Fynwy yr oedd arwyddion o wanwyn ysbrydol."

Ac ymhlith y mwyaf blaenllaw o lafurwyr y gwanwyn hwnnw yr oedd llanc 26 oed o Gasllwchwr a fu'n gweithio mewn pwll glo ac wedyn yn ofaint, Evan Roberts.

Mor allweddol ac amlwg oedd ef y mae'n cael pennod gyfan yn y llyfryn 55 tudalen.

Beth am heddiw

Er difyrred y straeon hyn - i ble maen nhw鈥檔 dod 芒 ni ac a ydyn nhw yn berthnasol heddiw?

Mae'r llyfryn yn cloi gyda phennod "Diwygiad a'r sefyllfa heddiw" lle mae'r awdur yn trafod yr anghenion ysbrydol sy'n bodoli heddiw mewn cyfnod arall o argyfwng crefyddol.

"Trist yw cyflwr pobl Dduw," meddai Eifion Evans wrth gyfleu'r argyfwng hwnnw a'r her mae'n ei gynnig, "Oeraidd a chyndyn ydym yn ein gwedd茂au. Arwynebol yw cymdeithas y saint. Mae caledrwydd yn ein calonnau a styfnigrwydd yn ein hagwedd."

Mae'n cloi trwy drafod y cwestiwn: "A oes gennym le i gredu y cawn ddiwygiad arall?"

Holi'r awdur

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆社 Cymru'r Byd






About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy