|
|
Drych
o fywyd Cymry America
Hanes papur newydd hynaf y Cymry yn yr Unol Daleithiau
Dydd Iau, Tachwedd 8, 2001
|
Welsh Reflections - Y Drych & America 1851-2001
gan Aled a Bill Jones. Gomer. 拢14.95.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Mae Welsh Reflections, hanes y papur newydd, Y Drych sy鈥檔 newyddiadur
hynaf y Cymry yng Ngogledd America - gan yr haneswyr Aled Jones a
Bill Jones, yn dweud stori gyffrous, ddifyr a gwerthfawr.
Ymddangosodd y papur gyntaf ar Ionawr 2, 1851 ac eleni yr oedd yn
dathlu 150 mlynedd di-dor.
Ei ddyfodol mewn peryg
Trist clywed wedyn, ac yntau wedi croesawu canrif a mileniwm newydd,
bod ei ddyfodol yn ansicr ar hyn o bryd.
Mor ansicr, nes bod amheuaeth a w锚l y flwyddyn 2002.
Yr arwyddion o鈥檙 Unol Daleithiau yw fod y papur ar werth ac os na
cheir prynwr rhwng hyn a diwedd y flwyddyn na welwn rifyn ar 么l mis
Rhagfyr.
Buasai hynny鈥檔 ddiweddglo trist i gyfnod a chofnod werthfawr yn hanes
y Cymry yn yr Unol Daleithiau.
Mae hanes y papur yn adlewyrchiad o鈥檙 newid yn natur y Cymry, a phwrpas
y papur wrth geisio adlewyrchu a bodloni鈥檙 gymuned sylweddol, gwasgaredig
ac eang sydd 芒鈥檌 gwreiddiau yn yr "hen wlad".
Popeth yn Gymraeg i ddechrau
Am yn hir bu鈥檔 bapur cyfangwbl Gymraeg - wedi鈥檙 Ail Ryfel Byd y troes
yn gyfangwbl i鈥檙 Saesneg.
Am ddegawdau, safai ysgwydd wrth ysgwydd 芒 Baner ac Amserau Cymru
Thomas Gee fel y newyddiaduron Cymraeg uchaf eu parch.
Yn y dyddiau cynnar ei bwrpas oedd helpu鈥檙 Cymry Cymraeg i ymsefydlu
yn y byd newydd.
Bu cynnydd enfawr yn nifer y Cymry aeth i鈥檙 Unol Daleithiau yn y blynyddoedd
rhwng 1850 ac 1890 - llawer ohonyn nhw wedi arfer darllen Cymraeg,
papurau cenedlaethol fel Baner ac Amserau Cymru, papurau enwadol
fel Y Goleuad, a phapurau lleol mewn ardal ddiwydiannol fel
Tarian Y Gweithiwr yn Aberd芒r.
Manteisiodd Y Drych ar y llif hwnnw o Gymreictod.
Hysbysebu am wraig
Nodir yn y gyfrol fod yn agos i 116,000 o siaradwyr Cymraeg yn yr
Unol Daleithiau yn 1872.
Mae yn y gyfrol nifer fawr o ddyfyniadau difyr - nodweddiadol Gymreig
- o鈥檙 papur.
Stori am George T. Matthews, gwr tlawd o Grughywel a ddaeth yn gyfoethog
trwy werthu te yn yr America - un ohonyn nhw oedd Te鈥檙 Brenin.
Bu鈥檔 hysbysebu鈥檔 ddi-fwlch yn Y Drych rhwng 1873 a 1932 a dau
arwydd o Gymro da, yn 么l Matthews, oedd ei fod "Yn yfed te鈥檙 Brenin
ac yn darllen Y Drych."
Mewn teyrngedau i鈥檙 ymadawedig, medd awduron Welsh Reflections,
cafwyd cyfeiriadau cyson bod hwn a hwn yn ddarllenydd cyson o鈥檙 Beibl
ac o鈥檙 Drych!
Nid anarferol 鈥檆hwaith yn y dyddiau cynnar fyddai darllen hysbyseb
fel:
"Eisiau Gwraig - Dymunaf agor gohebiaeth a merch ieuanc neu
gwraig weddw ieuanc; dim gwrthwynebiad fod ganddi un plentyn ieuanc.
Rhaid iddi fod o gymeriad da ac yn proffesu crefydd. Y bwriad yw gwneyd
dau yn un i gario yn mlaen ffarm yn y Gorllewin, a gwneyd cartref
yn gysur. Dim twyll na chwareu."
Yr oedd yn bapur am ddegawdau lawer a adlewyrchai ddiddordebau eang.
Cafwyd erthyglau taith - cyfres dan y teitl Dwywaith o Amgylch
y Byd gan wr o鈥檙 enw William O. Thomas yn 1882.
Math anarferol iawn o newyddiaduraeth mewn papurau Cymraeg yn y cyfnod
hwnnw.
Diddorol, hefyd, fel y byddai golygyddion a newyddiadurwyr yng Nghymru
yn codi straeon o鈥檙 Drych, o ddyddiau Gwilym Hiraethog hyd
E. Morgan Humphreys.
叠测诲诲补颈鈥檙 Drych, yntau, yn ei dro, yn codi straeon o bapurau
Cymraeg yng Nghymru.
Roedd yn dda iawn am fachu鈥檙 agwedd Gymreig o stori - dod o hyd i
Gymry mewn trychinebau. Y math o beth mae 麻豆社 Radio Cymru鈥檔 dda iawn
am ei wneud y dyddiau hyn.
Rhifynnau ar goll
Yn anffodus o safbwynt yr awduron, ni lwyddwyd i ganfod copi o bob
rhifyn a argraffwyd o鈥檙 papur.
Mae amryw resymau am hyn - nid oedd papur ar gyfer grwp ethnig yn
America o ddiddordeb mawr i lyfrgelloedd America. Nac ychwaith i lyfrgelloedd
Prydeinig.
Bu t芒n yn swyddfa鈥檙 papur ar Ragfyr 12, 1924. Heblaw鈥檙 golled fawr
mewn offer ac adnoddau, collwyd holl 么l-rifynnau鈥檙 papur a chollwyd
deunydd amhrisiadwy i ymchwilwyr am fywyd y Cymry yn America.
Diflannodd rhifynnau cyfnod y Rhyfel Cartref a fuasai wedi bod yn
ddiddorol tu hwnt.
Yn erbyn caethwasiaeth a Phatagonia
Gweriniaethol oedd gwleidyddiaeth y papur a gwrthwynebai gaethwasiaeth
yn ffyrnig.
Bu ffrae hir rhwng y papur a Samuel Roberts (SR) oedd am sefydlu gwladfa
Gymreig yn Tennessee.
Roedd Y Drych yn gwrthwynebu Gwladfa Patagonia, hefyd, ac un
o ystrywiau鈥檙 papur i geisio cadw鈥檙 Cymry rhag ymfudo yno oedd stori
gyfres Y Carcharor ym Mhatagonia a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd
1856-57 - ymdrech amlwg i godi braw ar unrhyw Gymry oedd yn ystyried
mynd yno i fyw.
Roedd gan berchnogion Y Drych eu cwys eu hunain ac am wladychu
rhannau mwy gogleddol o鈥檙 Unol Daleithiau a chyhuddid SR - ar gam
- o fod yn bleidiol i gaethwasiaeth.
Roedd hefyd yn heddychwr ac yn gwrthwynebu鈥檙 Rhyfel Cartref, tra bo鈥檙
Drych yn bleidiol i achos y Gogledd.
Bu鈥檙 ffrae honno鈥檔 berwi am flynyddoedd gan ysgogi cyfrolau o eiriau
wrth i SR amddiffyn ei safbwynt ac i鈥檙 Drych geisio cyfiawnhau
ei safbwynt yntau.
Fel y gellid disgwyl, hwyrach, yr oedd yn y papur lawer o gerddi a
straeon cyfres, yn 么l yr awduron mae yma faes i鈥檞 gloddio.
Llawer o Jonesiaid
Pwyntiau bach gogleisiol, wedyn, fel y nifer fawr o Jonesiaid fu鈥檔
golygu neu鈥檔 berchen y papur. Bu nifer dda o ferched hefyd yng nghadair
y golygydd.
Yn y cyfnod presennol fe鈥檌 gwelir fel papur sy鈥檔 rhoi modd i Americaniaid
ddal rhyw fath o afael yn eu gwreiddiau a chysylltiad 芒鈥檙 "hen wlad".
Sonnir yn y gyfrol am ddadlau ynglyn 芒 phwysigrwydd yr iaith - dadl
oedd yn mynd rhagddi yn y Gymraeg yng ngholofnau鈥檙 papur. Rhai yn
cymryd yr agwedd iddynt fynd i America i achub eu hunain, nid yr iaith!
A all rhywun ystyried ei hun yn Gymro os nad yw鈥檔 siarad yr iaith,
holir. Datganiad y cafwyd adlais honno yng Nghymru鈥檔 ddiweddar.
Mae鈥檙 gyfrol hon gan yr Athro Aled Jones a鈥檙 Dr Bill Jones yn ddifyr
a phwysig. Stori ramantus ac am frwydro cyson. Mae鈥檙 papur nawr yn
wynebu brwydr eto.
Bydd yn drist os daw鈥檙 papur i ben ym mlwyddyn dathlu ei canrif a
hanner, a blwyddyn cyhoeddi鈥檙 gyfrol ardderchog hon yn hanes y papur.
|
|
|