Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Creision Hud
Popeth yn flewog neu'n sleimi

Cyfrol o gerddi boncyrs o brysur i blant gan Mihangel Morgan

Dydd Iau, Hydref 25, 2001

Creision Hud gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. £3.95.
Pedair seren
Adolygiad Elen Rhys

Ry’m yn dod i ddisgwyl yr annisgwyl yng ngwaith Mihangel Morgan a dyw’r gyfrol hon ddim yn eithriad.

Dychymyg byw a ffraethineb
Er nad ydym yn gyfarwydd â Mihangel fel awdur i blant, mae ei ddychymyg byw a’i ffraethineb ffres yn ddelfrydol ar gyfer y cyfrwng hwn.

Mae byd y Creision Hud yn un gwallgo a gwirion.

Mae popeth yn odli a phob dim un ai’n flewog neu’n sleimi. Dyma gyfrol llawn o luniau digri, geiriau rhyfedd a chreaduriaid anhygoel. Gwyliwch eich clustiau, dyma un ar bymtheg o gerddi llawn SNAP, CRACL a PHOP!

Wedi colli’ch hosan, eich allweddi neu’r ‘betingalw’ sy’n newid rhaglenni? Gwyliwch ‘ych hun - y Fflwmbiau sydd ar fai. Pwy? Wel, creaduriaid bach blewog, ysgafndroed a chwim sy’n cymryd bob dim sy’n mynd ar goll!

‘ Fflwmiau bach sy’n b’yta’n sanau
Yn dwyn un o bob maneg
Ac yn cuddio stampiau......

Byw lan lofft
A phwy sy’n byw yn eich atig lan lofft? Neb llai na Hwmffra’r Hwmffragwmffa. Creadur chwe choes, gyda llais gwichlyd a dwylo fel toes.

Mae Hwmffra’r Hwmffragwmffa
Yn byw lan lofft
Mae’i olwg yn wyllt
Ond mae’i flew yn sofft.....
...Ac fel pob Hwmffragwmffa
Nid yw Hwmffra’n fawr
Ffordd lan mae’n ddewr
Ac yn drist wrth ddod lawr.

Oes, mae gan pob Hwmffragwmffa ffrindiau - y Crilion ( cochion, cneifion, creifion, crop) , yr Ychafil ( nid yw’n licio’r t’wllwch, nid yw’n licio moch, nid yw’n licio golau dydd na’r lliwiau glas a choch) , y Crafangafangeiddiwr (bwystfil eitha’ sionc sy’n bwyta bechgyn ysgol ac yn cerdded linc-di-lonc) , y Gwibwe Ofnus (sy’n gorwedd yn ei wely ym meddwl am bopeth gall fynd o’i le), y Chwyrngrilyn ( di-drwyn ond chwyrnwr heb ei ail), y Chwilbat a llawer mwy.

Dewis y chwilbat
Ond petawn i yn gorfod bod yn ffrind i un o’r gwallgoenfilod yma, b’aswn i a fy nith fach yn ddi-os yn dewis Y Chwlibat:

O, Chwlibat, Chwlibat, Chwlibat chwap
Ble mae dy gynffon a ble mae dy gap?
" Mae fy nghap ar fy nhrwyn lle dylsai fe fod
A’m cynffon mewn siwtces - ‘co, dyma fe’n dod"

Ydy, mae’r Chwlibat yn siarad llawer iawn o sens. A dweud y gwir, mae’r creaduriaid ‘ma i gyd yn siarad sens - wel, mwy o sens na chi neu fi!

Ac os ydych chi’n ddigon dewr, mi allwch chi gyd ddysgu dipyn gan y cyfeillion clyfar yma!!

Felly llyfwch y llyfr, sglaffiwch y synau a bwytewch y bwystfilod!

Cyfrol flasus sy’n boncyrs o brysur!! Tonic o chwerthin am £3.95!

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy