Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Diolch am gnonyn aflonydd

Cyfrol ddiweddaraf Cyfres y Cewri, hunangofiant yr awdures a'r brotestwraig Angharad Tomos.

Dydd Iau, Hydref 4, 2001

Cnonyn Aflonydd, Angharad Tomos
Gwasg Gwynedd, £7.95

Pum Seren

Adolygiad Sioned Lewis

Tydw i ddim yn un am ddarllen hunangofiannau fel rheol ond mae'n rhaid imi gyfaddef imi edrych ymlaen yn eiddgar at gael darllen y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri- y drydedd gyfrol ar hugain.

Dyma'r tro cyntaf i ferch rannu ei phrofiadau. Mae'n siwr fod ambell un arall wedi cael cynnig yn y gorffennol ond Angharad Tomos yw'r gyntaf i gynrychioli ei rhyw.

Ffigwr adnabyddus
Mae Angharad Tomos yn ffigwr adnabyddus yng Nghymru ond "Angharad y brotestwraig" neu "Angharad yr Awdur" yw hi i'r rhan fwyaf ohonom. Dyma gyfle felly i ddod i adnabod gwir gymeriad y crëwr cymeriadau.

Mi dreuliodd Angharad bedair blynedd yn rhoi ei hanes ar gof a chadw. Lle ar wyneb daear mae rhywun yn dechrau wrth ddweud ei stori? Yn enwedig rhywun fel Angharad sydd â chymaint i'w ddweud?

Mae'n siwr fod y ffaith ei bod wedi cadw dyddiadur ers yn ferch 15 oed wedi bod o fudd mawr tra'n ysgrifennu.

Onid eich teimladau personol sydd yn cael eu nodi mewn dyddiadur? Faint yn union a ddylai awdur hunangofiant ei rannu â'r darllenydd?!

Diffiniad perffaith o'r awdur
Mae teitl y gwaith yn un difyr-Cnonyn aflonydd ac yn ddiffiniad perffaith o'r awdur. Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd, all neb ei chyhuddo o fod yn aelod diog o'r gymdeithas.

Mae hi'n weithgar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar ran nifer o fudiadau. Mae'n siwr mai ei haflonyddwch sydd yn gyfrifol am ei gwthio ymlaen - er iddi fod yn anodd ar brydiau.

"Cnonyn Aflonydd" oedd hi pan enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Y Bala.

Cyffyrddiadau doniol
Nid testimoni sentimental mo'r gwaith o bell ffordd. Ceir cyffyrddiadau doniol iawn yn ogystal â rhai trist. Dyma ddyfyniad yn y gyfrol o sgwrs rhwng Angharad Tomos a William Hague a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd…

Hague: What is this?
Tomos: A retirement clock.
Hague: I've no intension of retiring.
Tomos: No-one in Wales wants you here.
Hague: That's a matter of opinion. I have no plans
to leave Wales.

Cyfrol llawn pobol
Mae hi'n gyfrol llawn pobol. Dyma sydd yn eich taro chi'n syth wrth fodio'r tudalennau. Ceir sôn mawr am ei theulu ac mae rhaid dweud fod ganddi'r ddawn o fedru creu darluniau byw. Mae cynhesrwydd yr aelwyd yn amlwg a disgrifia Angharad ei chartref, Bron Wylfa, fel "angor gadarn"…"Fedra i ddim dychmygu lle mwy hudol i gael fy magu ynddo."

Mae ganddi ei stamp unigryw ei hun yn ogystal ag iaith gyhyrog, raenus. Nid mynd ati i addurno'r papur â geiriau diangen a phregethwrol a wna ond defnyddio iaith naturiol gref sydd yn beth prin erbyn heddiw.

Oeddwn i'n disgwyl darganfod rhyw gyfrinachau mawr o ddarllen y gyfrol? Nag oeddwn - ond mi oeddwn yn disgwyl esboniad neu ryw arlliw o eglurhad ynglyn â'r llwybr a'r penderfyniadau y mae Angharad Tomos wedi eu dewis ac yn bwysicach fyth, o lle y daw'r nerth a'r dyfalbarhad i gario ymlaen?

Gwybod mwy amdani

Ydw i felly yn adnabod Angharad Tomos ar ôl darllen ei hunangofiant? Rwy'n gwybod llawer mwy amdani nag yr oeddwn. Mi 'dwi wedi gweld lluniau ohoni a'i theulu a gweld ei bod wedi chwarae rhan flaenllaw ym mrwydr yr iaith a'r frwydr am heddwch rhyngwladol.

Os am ddeall meddylfryd a rhesymeg Angharad Tomos, yna da chi darllenwch y gyfrol. Chewch chi mo'ch siomi. Mae'n siwr y bydd yna ddeunydd ail gyfrol gan y wraig hon.

i ddarllen mwy am Angharad Tomos
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy