麻豆社


Explore the 麻豆社

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Amrywiaeth heb ddyfnder

Angen mwy na chan tudalen i wneud cyfiawnder â Roy Noble

Dydd Iau, Awst 23, 2001

Bachan Noble, Roy Noble
Adolygiad Nia Wyn Jones
Dwy Seren


Llyfr hunangofiannol rhyw ychydig dros gan tudalen yw hwn.... llyfr cymharol denau, hawdd ei ddarllen mewn un eisteddiad.

Mae'r grynodeb ar y clawr cefn yn dweud y cawn 'Gyfle gwych i gael cipolwg ar y dyn y tu 么l i'r barf'.

A'r hyn gawn ni yw cyfres o feddyliau difyr yn symud yn gyflym o un i'r llall.

Arddull a iaith braidd yn gymysglyd
Ond mae arddull a iaith y llyfr braidd yn gymysglyd, a dweud y lleiaf.

O fewn dim i'r dechre fe gewch : 'Ro'dd y bathroom yn hongian acha hoelen tu fas i ddrws y bac' ond hefyd fe geir ffurfioldeb 'traphont' am viaduct ac 'Fe g芒i'r bwyd ei weini.....' .

Yn anffodus, roedd hyn yn amharu ar y darlleniad i mi. Hwyrach na fydd eraill yn cytuno.

Yr argraff gyffredinol a geir o'r llyfr yw mai nifer o olygfeydd byrion sydd yma - hanes y Clwb rygbi, y pwll nofio, sinema, y carnifal a'r operetta a mwy, a hynny'n gyflym ar 么l ei gilydd.

Cysylltiadau'n anodd eu deall
Mae'r cysylltiad rhwng rhai o'r golygfeydd yma yn anodd ei ddeall weithiau - fe symudwn yn gyflym o hanes y graffiti yn nhoiledau ysgol y Bontfaen i gysgu mewn pabell ger Llangors!

Yn wir, lleoedd yn hytrach na phobol sy'n llywio'r 'daith' drwy'r llyfr yma.

Fe fyddwn i wedi hoffi cael mwy o gig ar y disgrifiadau o rai o'r bobol, yn hytrach na chael catalog o enwau'n unig. Er enghraifft, mae'n disgrifio dirywiad a marwolaeth trist ei fam ond hoffwn petawn i wedi cael ei hadnabod yn well cyn hynny.

Mae'r un peth yn wir hefyd am ambell ddigwyddiad allweddol yn ei fywyd..... mae'n swta iawn wrth son am ei gyfnod yn Hewl y Mynydd.

"A fues i'n hapus dros ben yno," yw'r cyfan a gawn wybod ganddo!

Tair rhan i'r llyfr

Mae'r llyfr wedi ei rannu'n dair rhan:
• Brynaman (dyddiau cynnar),
• Caerdydd (dyddiau coleg)
• ac Aberd芒r (y presennol).

Mae'r ail ran, Caerdydd, yn adrodd ei hanes yn fyfyriwr ond rydw i'n siwr y gallai'r straeon yma fod yn wir am ganran helaeth o'r myfyrwyr oedd yno ar y pryd.... ond am ambell hanesyn, fel yr un am sut y byddai Roy yn llwyddo i gael tocynnau gemau rygbi gan Bill Clement!

Stori ddifyr sy'n siwr o roi syniadau i eraill!

Y wraig a'r cartref

Wedyn symud i Aberd芒r.
Yma cawn wybod am ei wraig, Elaine, a'r cartre a hynny ar 么l cael hanes genedigaeth eu mab, Richard, gryn ddwsin o dudalennau ynghynt!

Yn y rhan yma o'r llyfr y cawn un o'r darnau mwyaf teimladwy yn y llyfr - lle mae Roy yn cofio Rhydwen Williams.

Felly f'argraff o'r llyfr?

Cymysg a bod yn onest.

Gallaf glywed Roy yn adrodd yr hanesion yma - ac maen nhw'n ddigon difyr - ond teimlaf nad oes dyfnder yma.

Mae wedi gwneud llawer yn ystod ei fywyd ac rydw i'n credu fod angen mwy na chan tudalen i wneud cyfiawnder 芒'r bywyd lliwgar hwnnw.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆社 Cymru'r Byd






About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy