|
|
Delweddau'n
aros yn y cof
Casgliad o waith Gwenlyn Parry - dramodydd a fentrodd i fyd
newydd
Dydd Iau, Awst 30, 2001
|
Dramâu Gwenlyn Parry, y Cagliad Cyflawn
Gwasg Gomer
Pris £19.95
Adolygiad Catrin Jones
Roeddwn i'n hynod falch clywed fod cyfrol o waith Gwenlyn Parry yn
mynd i gael ei chyhoeddi.
Dyma ddramodydd pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg diweddar a syndod
i mi wrth fynd ati i ddarllen ei waith ychydig flynyddoedd yn ôl oedd
darganfod mor anodd oedd dod o hyd i gopïau o'i waith.
Roedd y dramâu cynharaf allan o brint a dim ond o fod yn ddigon ffodus
i ddod ar eu traws mewn llyfrgell yr oedd modd eu darllen.
Does dim rhaid poeni mwyach oherwydd dyma gasgliad newydd sbon o'i
holl ddramâu.
Cyhoeddwyd y gyfrol i nodi dengmlwyddiant marwolaeth Gwenlyn Parry
ar ddiwrnod Guto Ffowc 1991.
Ar y tudalennau cyntaf ceir rhagymadrodd priodol iawn i gyfrol o'r
fath gan Annes Gruffydd.
Gwenlyn yn hoelio sylw
I ddechrau mae'n mynd ati i sôn am Gwenlyn y dyn:
"Dyna lle byddai o'n ista - yn llygad sylw'r cwmni, nid am ei fod
yn hawlio sylw ond am ei fod yn hoelio sylw. Efo'i lais mwyn, tawel,
a'i fwstas walrys, gan sychu'i wyneb â'i law, yn llwyr o'i dalcen
i'w ên, fel pe bai'n sychu atgof gwneud drygau enbyd ddigywilydd."
Rydw i'n hoffi'r ffaith ein bod ni'n cael ein cyflwyno i'r dramodydd
fel person o gig a gwaed ar y dechrau fel hyn, wedi'r cwbl mae deall
personoliaeth yr awdur yn bwysig er mwyn deall ei waith. Mae'r elfen
bersonol yn effeithiol hefyd am mai cyfrol i goffáu yw hon.
Doliau Woolworth!
Mae Annes Gruffydd yn mynd ati wedyn i drafod ei waith. Cawn wybod
mai gweld rhes o ddoliau ar silffoedd Woolworth a ysbrydolodd
Gwenlyn i ysgrifennu Saer Doliau ac mai rhoi lifft i weinidog
anghyffredin a ysbrydolodd Y Ffin.
Mae hefyd yn pwysleisio mai lluniau sy'n bwysig yn nramâu Gwenlyn.
Y delweddau sy'n aros; "dramâu ydyn nhw nid i'r pen ond i'r galon
a'r glust a'r llygad." Dylid cadw hyn mewn cof wrth ddarllen y gyfrol.
Hoffwn ganmol Annes Gruffydd am ragymadrodd sy'n deilwng iawn i un
o brif ddramodwyr Cymru. Mae'r awdur wedi llwyddo i drafod sawl elfen
o fywyd a gwaith Gwenlyn Parry ac ar yr un pryd ennyn chwilfrydedd
ynom ni'r darllenwyr a'n hannog i ddarllen ymhellach a mwynhau.
Yn nhrefn amser
Mae'r dramâu wedyn wedi'u gosod mewn trefn gronolegol. Roedd hyn yn
llwyddiannus yn fy marn i gan fod modd i ni weld y datblygiad yng
nghrefft a themâu'r dramodydd trwy ei yrfa.
Y dramâu byrion a geir i ddechrau sef Hwyr a Bore, Y Ddraenen
Fach a Poen yn y Bol nad ydynt mor adnabyddus â''r gweddill
ond mae dawn Gwenlyn fel dramodydd i'w weld yn amlwg yma yn y modd
y mae wedi llunio'r cymeriadau a'r ddeialog naturiol.
Portread o'r ddynoliaeth?
Wedyn fe'n tywysir i weithdy'r Saer Doliau, lleoliad ei ddrama fawr
gyntaf.
Yma, mae Ifans yn gweithio'n hapus gan ei feio Fo yn y seler
am bopeth aiff o'i le a ffonio'r Giafffar i ofyn am gymorth.
Gellir dadlau mai portread o'r ddynoliaeth a geir yma ac mai dynion
yw'r doliau sy'n cael eu trin gan y saer ac yntau yn galw ar Dduw
am gymorth.
Ond a oes rhywun y pen arall i'r lein ffôn?
Caban ar dywod
Caban wedi'i adeiladu ar dywod yw lleoliad y ddrama nesaf, Ty ar
y Tywod.
Gwr y Ty sy'n byw yma ac o gwmpas ei gartref mae ffair enfawr. Mae'r
caban yn rhwystr i Wr y Ffair sydd am ehangu ei diriogaeth ac mae
brwydr yn datblygu rhwng y ddau.
Ar ddiwedd y ddrama mae Gwr y Ty yn gorfodi Gwr y Ffair i gyfnewid
dillad ag ef ac felly mae Gwr y Ty yn troi'n Wr y Ffair.
Dyma gyfleu'r ddynoliaeth eto yn ysu am rym a'n materoldeb ac fe ddaw'r
gynulleidfa'n rhan o ffair bywyd yn niwedd y ddrama.
Tyndra rhwng yr hen a'r ifanc
Caban yw lleoliad Y Ffin hefyd ond y tro hwn ar ochr mynydd.
Ceir tyndra rhwng yr hen a'r ifanc wrth i Wilias yr hen wr geisio
cyd fyw â'i gyfaill ifanc Now.
Mae dyfodiad y ferch i'r caban yn chwalu'r berthynas gan arwain at
adeiladu ffin drwy ganol y cwt.
Darlunio'r berthynas rhwng dau berson a wneir yn Y Twr hefyd,
ond y tro hwn perthynas gwr a gwraig. Portread o daith bywyd a geir
yma wrth i'r ddau ddringo'r twr hyd angau. Gwelwn hwy'n heneiddio
ac mae'r dieithrwch yn amlwg ac yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo.
Byw heb fwyd
Drama wedi'i seilio ar ddigwyddiad hanesyddol yw Sal am ferch
ifanc yn byw am gyfnod hir heb fwyd.
Llys barn yw'r lleoliad a cheir erlynydd ac amddiffynydd sy'n symbol
o'r crediniwr a'r anghrediniwr.
Ni'r gynulleidfa yw'r rheithgor ac wedi marwolaeth y ferch yn niwedd
y ddrama y ni sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan.
Drama ar ddwy lefel
Mae gan y gynulleidfa ran allweddol yn Panto hefyd. Hon yw
drama olaf y gyfrol ac yma mae dawn Gwenlyn fel dramodydd wedi datblygu'n
llawn.
Yn fy marn i dyma'r ddrama orau o ran technegau theatrig.
Mae yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto a'r ystafell wisgo gyda'r
cyd-chwarae rhwng y ddau yn gweithio'n berffaith i gyfleu emosiynau
a bywydau'r prif gymeriadau. Mae llawer o eironi a hiwmor yn deillio
o'r berthynas hon.
Dyma ddrama wych i gloi casgliad arbennig o ddramâu symbolaidd gan
ddramodydd a fentrodd i fyd newydd lle roedd y ddrama Gymraeg yn y
cwestiwn, byd Samuel Beckett a'i debyg.
Cyfrol gwerth ei drallen
Dyma gyfrol gwerth ei darllen. I rai sydd eisoes yn gyfarwydd â gwaith
Gwenlyn Parry mae'n gyfrol sy'n werth ei chael ar y silff lyfrau,
ochr yn ochr â'r ddwy gyfrol swmpus o waith Saunders Lewis.
Dywed Annes Gruffydd amdano fel storiwr "roedd hi'n hyfrydwch clywed
stori fwy nag unwaith" ac mae hyn yn wir am ei ddramâu hefyd.
Dyma ddramâu i'w darllen a'u mwynhau dro ar ôl tro.
I'r rhai nad ydych wedi darllen y dramâu o'r blaen dwi'n sicr na chewch
chi mo'ch siomi oherwydd dyma awdur sy'n deall posibiliadau'r theatr
ac yn feistr ar iaith a deialog.
Un o ddramodwyr mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
|
|
|