Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Angen rhagor o gloddio ar lyfr am aur

Gormod o friwsion - dim digon i'w gnoi

Dydd Iau, Awst 16, 2001

Y Cymry ac Aur Colorado gan Eirug Davies . Cyfres Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch.
Adolygiad gan Dafydd Mei.



Mae Gwasg Carreg Gwalch newydd gyhoeddi ei hanner canfed cyfrol yn y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad.

A’r tro hwn mae wedi mentro i America gyda chyhoeddi Y Cymry ac Aur Colorado gan Eirug Davies - brodor o Geredigion ond sydd rwan yn byw yn America.

Rhy bytiog

dau gloddiwr aurPytiau o lythyrau a barddoniaeth gan Gymry aeth i feysydd aur Colorado yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd yma.

Ac, yn wir, pytiog ydy’r llyfr drwyddo draw.

Cyfeirir at rai ag iddynt enwau Cymreig ond fawr ddim am ble daethon nhw, beth oedden nhw’n ei wneud cyn mentro i gloddio am aur ac - yn bwysicach fyth, efallai - ar wahân i un enghraifft, pa mor llwyddiannus fuon nhw.

Gwn o’m gwaith ymchwil fy hun na ellir cymryd yn ganiataol fod pob Jones, Evans a Williams yn dod o Gymru na chwaith ei dad neu’i fam.

Ychydig iawn o gyfeiriadau sydd yma at lefydd yng Nghymru a dim ond ambell un at drefedigaethau Cymreig yn America. Mae un enghraifft am un a fynychai dafarnau Central City "ac iddo’r enw Cymreig Tom Evans"!

Saethu Mountain Jim

Ceir un cyfeiriad at Griffith Evans a saethodd wr o’r enw Mountain Jim yn farw - ond dim mwy.

Gwn mai gwr o Lanberis oedd Griffith ac mae’n debyg mai ffraeo dros ferch Griffith - Jennie - oedden nhw gan fod y Gwyddel, Mountain Jim Nugent, wedi dangos gormod o ddiddordeb ynddi.

Prin iawn hefyd ydy’r cyfeiriadau at y Cymry aeth oddi ar y llwybr cul. Hogia’r capel a’r eisteddfod ydy bob un o’r rhain. Mi fyddwn i wedi hoffi cael gwybod mwy am William Parry oedd "Ymhlith y tri ddihangodd nos Sul o benydfa Canon City. "

Beth oedd o wedi’i wneud i gael ei roi dan glo?

Cyfeirir hefyd at stablau Williams (ac yn wir mae llun o’r adeilad - un o’r ychydig luniau yn y llyfr y gellir dweud sy’n berthnasol i’r testun) a bod Williams yn siryf yn Central City nes iddo gael ei saethu.

Ond gan bwy - a beth oedd yr amgylchiadau?

Cyfraith a threfn

Cyfeirir hefyd at nifer o siryfion a chyfenwau Cymreig iddynt, fel Sherriff Jesse Pritchard, Central City, John T Davies, Georgetown, a WS Jones, Canon City, ond eto dim rhagor o wybodaeth.

Ac o feddwl fod pentrefi’r mwynwyr yn llefydd garw iawn, ychydig iawn o sôn geir am hyn.

A chan fod y Cymry i’w gweld yn rhai a gadwai’r ochr iawn i’r gyfraith, syndod oedd peidio â gweld yr un cyfeiriad at lysoedd y mwynwyr - trefn o ddelio â drwgweithredwyr cyn i gyfraith a threfn gyrraedd y parthau hyn.

Mae cyfeiriad neu ddau ddigon doniol yn y gyfrol. Un am fardd yn Eisteddfod Nadolig Montezuma yn 1876 yn defnyddio rhywfaint o’r papur yr oedd wedi ysgrifennu ei gerdd arno i danio’i bibell ‘mewn amryfusedd’ a bardd arall yn ennill y gystadleuaeth!

Rhybudd cwrw

Mae yna rybudd hefyd am gwrw’r ardal: "Bydd i un llwnc demtio dyn i ladrata ei ddillad ei hun; dau lwnc a wna iddo frathu ei glust ei hun, tra bydd i dri llwnc ei demtio i achub ei fam yng nghyfraith rhag boddi."

Ond digon diflas ydy’r cerddi sydd wedi’u hychwanegu at bob pennod fer, cerddi sy’n nodweddiadol o ddull clogyrnaidd y cyfnod.

Cyfrol denau ydy hon, 64 tudalen, ac ychwanegwyd at ei diwedd atgofion un o’r hen feinars o’i ardal enedigol yng Nghymru a thaith ymwelydd i ben un o’r mynyddoedd uchel!

Buasai’n llawer gwell gen i fod wedi cael rhagor o wybodaeth am y dynion dewr hyn a fentrodd i wlad ddieithr, arw, i wneud eu ffortiwn - os gwnaethon nhw hynny.

Y tebygrwydd ydy mai ychydig iawn o aur a welodd y rhan fwyaf ohonyn nhw. A gellir dweud yr un peth am y llyfr hwn.

Rhyw friwsion sydd yma ond gydag ychydig mwy o gloddio rwy’n siwr y gellid dod o hyd i ddeunydd llawer difyrrach.





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy