Â鶹Éç


Explore the Â鶹Éç

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹Éç Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Y sêr yn
ein llygaid


Llyfr difyr am y berthynas rhwng Cymru ac America
Dydd Iau, Gorffennaf19, 2001

Gweld Sêr - Cymru a Chanrif America.
Golygydd, M. Wynn Thomas.
Cyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, Golygydd Cyffredinol, John Rowlands.
Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99.



Sylwadau Glyn Evans
Yn ei lyfr difyr, The Summing Up, y mae gan W. Somerset Maughan bennod bwysig yn canu clodydd arddull rymus ac egnïol awduron rhyddiaith Americanaidd.

Sgrifennu Americanaidd

Y mae’n bennod o bwys gan nofelydd a storïwr byr Saesneg uchel iawn ei barch.

Craidd ei ddadl yw fod rhyddiaith yr Americaniaid yn rymusach ac yn fwy cyhyrog ac apelgar oherwydd na ddaeth yr awduron hynny dan ddylanwad arddulliau estron y Beibl i’r un graddau a sgrifenwyr a fagwyd ar fron y traddodiad Seisnig yn Lloegr.

Mi fydda i’n mwynhau darllen y bennod honno oherwydd y mae tuedd ynom i ystyried yr hyn sy’n dod o’r America, boed yn llyfrau neu’n rhaglenni teledu, yn iselach na'r hyn a gynhyrchir ym Mhrydain.

Y mae dweud fod rhywbeth yn Americanaidd gystal â dweud ei fod yn ddisafon neu o leiaf yn gwrs ac yn amrwd ac yn haeddu dim ond amharch.

Ond eto - hoffi’r peth neu beidio - y mae dylanwad diwylliant a chelfyddyd y wlad honno yn fawr arnom ac yn aml yn destun mwynhad difesur - yn enwedig ei chelfyddyd boblogaidd.

Y mae tuedd - rhy barod, yn aml - i feirniadu hyn trwy gyhuddo’r Americaniaid o imperialaeth ddiwylliannol a diau fod rhywfaint o wir yn hynny.

Ond nid dyna’r gwir i gyd.

Nid yw cyfrol Gymraeg sydd newydd ei chyhoeddi yn gymaint canu clodydd y diwylliant Americanaidd - er bod yna rywfaint o hynny hefyd - ond y mae yn pwyso a mesur ac yn tanlinellu ei ddylanwad nid yn unig arnom ni fel pobol ond hefyd ar ein llenorion, ein sgrifenwyr ac eraill sy’n ymhel a’r celfyddydau.

Cyffyrddir a’n dylanwad ni arnyn nhw hefyd megis ym mherson y pensaer Frank Lloyd Wright.

Yn gymysg oll i gyd

Yr hyn a ddaw yn amlwg o Gweld sêr - Cymru a Chanrif America a olygir gan M. Wynn Thomas yw fod y diwylliant Americanaidd yn bellgyrhaeddol - yn imperialaidd o bellgyrhaeddol os mynnwch chi - a hefyd yn llawn cymysgedd, cymhlethdod a chroesddweud.

Yn fuan iawn yn y gyfrol sylweddolwn nad ydym yn mynd i gael un darlun twt a thaclus o’r berthynas a’r dylanwadau.

Rhywbeth sy’n gymysg oll i gyd ydyw ac o’r herwydd yn ddiddorol.

Fel y dengys Simon Brooks - ac eraill - yn ei gyfraniad ef i’r gyfrol gallwn, ar y naill law, gasau a ffieiddio "wleidyddiaeth America a chyfalafiaeth gan ddilyn patrwm clasurol y chwith Ewropeaidd."

Ond, ar y llaw arall, cawn ein hunain yn "chwennych America yn ddiwylliannol."

Dengys Simon Brooks fod llenyddiaeth a cherddoriaeth boblogaidd Gymraeg "yn frith o gyfeiriadau cynnes at yr Unol Daleithiau" pe na byddai ond yn y gân ysgafn Anti Henrietta o Chicago a briodola ef i Hogia Llandegai.

Y mae o’n mynd cyn belled â dweud "yn ddi-os" mai "rhagoriaeth yr Unol Daleithiau i’r Cymry yw ei bod, er yn rhan o’r byd Saesneg, eto’n meddu ar arwahanrwydd oddi wrth Loegr" - er y mae’n amheus gen i a yw pobl wedi rhesymoli eu hymateb i’r graddau hynny.

Dylanwad y poblogaidd

Ta beth y mae Mr Brooks yn crynhoi yr hyn a ddywed sawl un o’r 12 cyfrannwr arall i’r gyfrol pan ddywed mai trwy gyfrwng diwylliant poblogaidd yr ydym yn ymgyfranogi’n bennaf o’r diwylliant Americanaidd.

Dywed Gwyn Thomas mai dyna nerth y diwylliant Americanaidd a hynny oherwydd bod yno yr arian i’w greu - achos fel y gwyddom, y mae’r llwyddiannus boblogaidd yn ddrud i’w gynhyrchu.

Nid a cheiniog a dimai y mae cynhyrchu stwff sâl da Dafydd Glyn Jones ’slawer dydd. Does ond eisiau gwylio S4C i sylweddoli hynny.

Daeth M. Wynn Thomas - Athro yn adran y Saesneg yn y brifysgol yn Abertawe - a deuddeg o wahanol bobl at ei gilydd nid yn unig i ddadansoddi’r dylanwadau a’r berthynas Gymo-Americanaidd ond hefyd i sôn am ddylanwad America arnyn nhw yn bersonol - ac y mae America yn y cyd-destun hwn gyfystyr a'r Unol Daleithiau er cymaint o gyrn y gall llaw-fer o'r fath eu sathru!

Mewn cwt sinc

Gwyn Thomas, er enghraifft, yn dweud mewn ysgrif, sy'n deffro atgofion cyffredin i nghenhedlaeth i, iddo ef ddod i adnabod America gyntaf mewn cwt sinc o sinema pan yn blentyn ym Mlaenau Ffestiniog sy’n golygu fod ei adnabyddiaeth gyntaf o’r wlad a’i diwylliant drwy gowbois ac arwyr ffilm eraill.

Heb wirioni ar lenyddiaeth y wlad

Ond er cymaint o gyffro fu hynny iddo ni fyddai ef yn cydfynd a’r hyn a ddywedodd Maughan am nofelwyr a storïwyr y wlad.

"Nid yma mae’r brif America i mi," meddai am lên y wlad.

"Rwyf wedi darllen (nid astudio) pethau gan yr enwau mawr, yn nofelwyr, beirdd a dramodwyr, ond - gydag eithriadau - heb wirioni arnynt. Yr argraff sy gen i . . . ydi fod llawer o lenyddiaeth y wlad, fel y dywedir bod llawer o’i phoblogaeth, yn rhy flonegog. Mae yna, i mi, ormod o wmffiau o eiriau . . ."

Daw i’r casgliad:
". . . mai mewn pethau mwy poblogaidd y mae clywed America. Mae’r llais yn llawer cliriach i mi yn Raymond Chandler, neu’n fwy clir fyth - am y rheswm syml fy mod wedi bod yn gyfarwydd ag o am gymaint mwy o amser - yn Edgar Rice Burroughs" awdur llyfrau Tarzan.

Tarzan, yn greadigaeth y mae Gwyn Thomas yn ei disgrifio fel creadigaeth dychymyg "sy’n nes at y dychymyg a greodd ein Mabinogi ni na chymeriad mwy cyfewin lenyddol."

Mae natur adnabyddiaeth Gwyn Thomas ac M. Wynn Thomas yn agos iawn at ei gilydd fel mae’n digwydd - un yn y gogledd a'r llall yn y de - ac mae pennod y naill a rhagymadrodd y llall yn agoriad gwych i gyfrol hawdd ymgolli ynddi.

Dywed Wynn Thomas mai bwriad ei gyfrol "oddrychol" yw canolbwyntio ar "y modd y bu i Gymry’r ugeinfed ganrif greu America ar eu llun a’u delw hwy eu hunain."

Ac meddai wrth egluro’i gyfrol:
"Prif bwnc y llyfr yw’r moddau gwahanol y mae’r Cymry Cymraeg wedi ymddiddori yn America yn yr ugeinfed ganrif."

Y mae’r gwahanol ymateb yn gwneud hon yn gyfrol nid yn unig amrywiol ond yn un eithriadol o ddifyr hefyd.

Cymysglyd ac amrywiol

Darlun cymhleth sy’n ymrithio o’i dalennau ac mor gymysglyd ag yw agweddau o America o amrywiol. Achos does yna ddim un America y gellir ei pharselu'n dwt.

Mae'r edmygedd o arwriaeth eofn ffilmiau cowboi, o’r pwyslais ar ryddid ac o wrthdystiadau hawliau sifil y duon yn gwrthdaro'n benben ag imperialaeth fyd-eang gwlad sydd am wthio Coke i lawr corn gwddf y byd ac a fu’n trin mor drahaus frodorion gwreiddiol y cyfandir mawr yr agorodd gwysi datblygiad ar ei draws.

Dywed M. Wynn Thomas a chyfrannwr arall mai yr awdur Cymraeg cyntaf - annsigwyl o bosib - "i gynnig inni yr olwg ar America sy’n cynganeddu orau ag ymateb awduron ein cyfnod ni" yw T. H. Parry-Williams ac mae’r ymdriniaeth honno yn un ddadlennol.

Dau draddodiad mewn sgwar bocsio

Daniel Williams yn gweld dau draddodiad yn dod ynghyd "pan ddringodd Tommy Farr (o’r Rhondda) i mewn i’r sgwâr yn Yankee Stadium i wynebu (Joe) Louis yn 1937" a’r berthynas yn cael ei selio flwyddyn wedyn gydag ymweliad Paul Robeson ag Aberpennar.

"Yn ganwr clasurol ac yn sosialydd, unir y traddodiadau modernaidd aruchel a phoblogaidd, sosialaeth a hunaniaeth, yn ffigwr urddasol Paul Robeson. Ac fe unir y Coch a’r Du - Harlem a Chymru," meddai.

Tir niwtral i fardd adnabod ei hun

I’r bardd, Gwyneth Lewis, bu America yn "dir niwtral hollbwysig i alluogi i mi glywed rhythmau fy llais fy hun, ar wahân i rythmau cryfion y Gymraeg."

"Wrth gwrs," meddai, "rhaid priodi’r ddau beth ond roedd harddwch y traddodiad Cymraeg yn rhy agos ata’ i yng Nghymru i’m galluogi i weld gwirioneddau anghysurus y foment bresennol. A dyna un o gryfderau mawrion America a’r Americaniaid, eu parodrwydd i geisio gweld gwirionedd unrhyw sefyllfa, waeth pa mor anhrefnus neu annymunol. Mewn barddoniaeth, y mae ffurf gwirionedd yn bwysicach nag unrhyw brydferthwch, yn enwedig pan fo’n mynd yn groes i ewyllys y bardd ei hun - ac mae hynny bob tro yn arwydd o rywbeth da yn digwydd"

Rhywbeth i greu cil arno fan yna.

A hynny mewn cyfrol sydd - er yn ysgolheigaidd - ag apêl sicr at y darllenydd cyffredin bondigrybwyll hefyd pe na byddai ond am y rheswm syml fod dylanwad America mor bellgyrhaeddol ag i’n cyffwrdd ni i gyd.

Achos fel y dywed Simon Brooks:
"Gan fod gafael yr Unol Daleithiau ar y rhwydweithiau sy’n traddodi diwylliant mor gadarn mae bron y cwbl o’n profiadau diwylliannol newydd yn Americanaidd eu tarddiad."

Dim rhyfedd felly i’r angen am gyfrol fel hon gael ei weld mewn cyfres yn dwyn y teitl cyffredinol, "Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig."

Y cyfranwyr i gyd:
M. Wynn Thomas (golygydd); John Barnie, bardd a golygydd Planet; Simon Brooks, golygydd Barn; Menna Elfyn, bardd; Jerry Hunter darlithydd o Cincinnati; Gwyneth Lewis, bardd;; Iwan Llwyd, bardd a darlledwr; Mihangel Morgan, awdur ac ysgolhaig; J. Geraint Roberts, pensaer; C. W. Sullivan III, Athro Saesneg yn Nwyrain Carolina; Gwyn Thomas; bardd a beirniad llenyddol; Daniel Williams, darlithydd.








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹Éç Cymru'r Byd






About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy